Am Bwystfil Brenin
Dargyfeiriadau
1. Mae gwyriad bach yn weithredol rhwng y ffordd darmac a dechrau trac sengl "Hermon". Mae hyn oherwydd gwaith cynaeafu. Nid oes unrhyw drac sengl yn cael ei golli.
2.Mae dargyfeiriad newydd wedi cael ei osod ar ôl ‘Hermon’, sy’n osgoi ychydig o ffordd y goedwig. Ni chollir unrhyw drac sengl.
Llwybrau yr effeithir arnynt yw:
• Dragons Back
• Beast
Cyfuniad o Dragons Back a llwybrau’r MBR, yn cyflwyno sialens hir flinderus.
Gan gynnwys ‘Falseteeth’ sydd wedi cael ei ailwampio a’i moderneiddio gydag adeiladwaith o ansawdd a chynllunio o’r radd flaenaf. Nawr yn cynnwys y ‘Cavity’, llwybr technegol fwyaf yng Nghoed y Brenin.
Mae’r llwybr hyn yn argoeli i fod yn anodd yn feddyliol ac yn gorfforol ac ni ddylid rhoi cynnig arno oni bai fod eich lefelau ffitrwydd a sgiliau yn eich caniatáu. Gwnewch yn si
ŵr fod gennych ddiodydd, bwyd, dillad a darnau sbâr ar gyfer y beic. Byddwch yn barod i ddychwelyd yn flinedig, fwdlyd ac yn orfoleddus!
Sut i gyrraedd:
Dolgellau yw'r dref neu'r pentref agosaf.
I’r dwyrain o’r A470, 8 milltir gogledd o Ddolgellau, ychydig i ogledd Ganllwyd, de o Drawsfynydd. Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown.
Cyfeirif Grid yr OS: SH 725 268
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
| Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin: Cyfleusterau. |
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() |
|
Dynodiad llwybr:
Logos du "Bwystfil" |
| Hyd y llwybr: 38.2 km milltir |
| Amser bras am y llwybr: 3-6 awr |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Andy Braund e-bost: andy.braund@forestry.gsi.gov.uk |







