Glas
Taith gerdded hir yw “Llwybr y Chwarelwr” yn archwilio hen weithfeydd mwyn Chwarel Bryn Eglwys. Mae’r llwybr yn dilyn yr afon at lethr Cantrybedd cyn dringo allan o’r coed ac yn crwydro drwy wastraff a chloddfeydd y chwarel, heibio i weithfeydd y felin a mynd i lawr ar hyd yr hen dramffordd a llethr serth Alltwyllt ac yn ôl i’r orsaf. Edrychwch allan ar hyd y llwybr am y blychau sain gellir eu weindio sydd yn adrodd hanes cloddio llechi yn Chwarel Bryn Eglwys.
Sut i gyrraedd:
Glas can be started from Nant Gwernol in Abergynolwyn which is part of Dyfi. Abergynolwyn, Tywyn, Machynlleth, a Dolgellau yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
Cymerwch y trên ar reilffordd Tal-y-Llyn o unrhyw un o’i gorsafoedd rhwng Tywyn ac Abergynolwyn. Neu parciwch ym mhentref Abergynolwyn a chymerwch y daith gerdded fer, ond serth i’r orsaf o’r tu ôl i’r Ganolfan Gymunedol/Caffi.
Cyfeirif Grid yr OS: SH681067
Mamaliaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Mochyn daear
Pryfed ac ymlusgiaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Gwiber