Cylchdaith Llyn Crafnant
A'r ddechrau'r daith yma mae afon Crafnant yn byrlymu allan o'r llyn, ac ychydig o fetrau ymhellach fe welwch chi un o'r golygfeydd godidocaf yn Eryri, gan edrych o droed Llyn Crafnant tuag at dirwedd mynyddig Crimpiau a'r Creigiau Gleision. Mae'r daith hon, sydd yn addas i'r teulu cyfan gydol y flwyddyn, yn cychwyn ar hyd llwybr coediog gwastad hir ac yn troi'n fwy tonnog wrth inni nesau at glogwyn aruchel Craig Lwyd. Wedi disgynfa fer ond caregog yn ol lan y llyn, ceir golygfeydd swynol ar bob tu, ac mae llwybr hawdd yn mynd a ni o gwmpas pen y llyn. Mae'r ffordd yn ol yn mynd heibio i gaffi Crafnant, sydd ar agor yn yr haf.
Sut i gyrraedd:
Cylchdaith Llyn Crafnant can be started from Llyn Crafnant in Gwydyr. Trefriw yw'r dref neu'r pentref agosaf.
B5106 i Drefriw, yna dilynwch yr arwyddion am Lyn Crafnant.
Cyfeirif Grid yr OS: SH 757 618