Am Llwybr Barcud
Mae'r llwybr hardd hwn yn addas ar gyfer pob gallu. Does dim grisiau neu gamfeydd ac mae'r ogwydd yn 10% neu lai gyda chilfannau gorffwys ar y rhannau sydd yn dringo. Â'r llwybr â chi o gwmpas ymyl y llyn lle y byddwn yn bwydo'r Barcudiaid bob dydd. Gwelir adar eraill yn ystod y bwydo hefyd, yn eu plith y Crëyr Glas, y Boncath a'r Gigfran. O bosibl y byddwch yn ddigon ffodus i weld ein Barcud Gwyn anarferol iawn.
Sut i gyrraedd:
Ponterwyd yw'r dref neu'r pentref agosaf.
10 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth ar yr A44, dwy filltir i'r gorllewin o Bonterwyd.
Mae bws rhif 525 o Aberystwyth i Bonterwyd/Llanidloes yn aros wrth fynedfa'r maes parcio.
Cyfeirif Grid yr OS: SN 718 813
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Bywyd Gwyllt
Adar: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Barcud coch
| Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian: Cyfleusterau. |
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() ![]() |
| Dynodiad llwybr: |
| Hyd y llwybr: 2/3 milltir |
| Amser bras am y llwybr: ½ awr |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Gareth Owen - 0300 068 0300 e-bost: gareth.owen1@forestry.gsi.gov.uk |











