Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  

 


Llwybr Gogerddan
 

Brasgamwch ar y llwybr hwn wedi gadael y man picnic cysgodol ar lan y nant. Ar ôl mynd heibio i rai coed mawr iawn byddwch yn dringo drwy goetiroedd sy’n adnabyddus am eu blodau prydferth yn y gwanwyn. Caiff y coetir ei enwi ar ôl Plas Gogerddan sydd gerllaw, sef hen blasdu teulu Pryse a oedd yn berchenogion mawr ar weithfeydd arian a phlwm.

Sut i gyrraedd:

Llwybr Gogerddan can be started from Safle Picnic Gogerddan in Gogerddan Allt Ddel. Penrhyncoch yw'r dref neu'r pentref agosaf.

O Aberystwyth: Cymerwch yr A44 i gyfeiriad Llangurig. Ar ôl i chi fynd trwy Gapel Dewi byddwch yn dringo rhiw. Wrth ddisgyn, cadwch lygad allan am groesffordd ar y gwaeold a throwch i'r dde am Benrhyncoch. Ewch heibio tai gwydr anferth ar y dde, gan anwybyddu arwyddion am Swyddfeydd y Comisiwn Coedwigaeth ym Mhenrhyncoch ar y chwith, ac ewch heibio rhes o dai ar y chwith. Bydd mynedfa'r maes parcio'n ymddangos yn sydyn ar y chwith ar ôl y ty olaf., O'r Dwyrain: Cymerwch yr A44 i gyfeiriad Aberystwyth. Tua 3 km ar ôl Penllwyn Capel Bangor cymerwch yr A4159 am Fachynlleth ar y dde. Ar ôl i chi fynd trwy Gapel Dewi byddwch yn dringo rhiw. Wrth ddisgyn cadwch lygad allan am groesffordd ar y gwaelod a throwch i'r dde am Benrhyncoch. Ewch heibio tai gwydr anferth ar y dde, gan anwybyddu arwyddion am Swyddfeydd y Comisiwn Coedwigaeth ym Mhenrhyncoch ar y chwith, ac ewch heibio rhes o dai ar y chwith. Bydd mynedfa'r maes parcio'n ymddangos yn sydyn ar y chwith ar ôl y ty olaf.

Cyfeirif Grid yr OS: SN 718 813


Safle Picnic Gogerddan: Cyfleusterau.
Parking
Graddfa llwybr:
Stout waterproof footwearModerate
Dynodiad llwybr:
white
Hyd y llwybr:
1 1/2 milltir
Amser bras am y llwybr:
1 1/4 awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor


Beth sydd o ddiddordeb
Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.



to DirectGov