Am Twrch
Mae'r llwybr Twrch yn un o drysorau cudd Cymru, llwybr cylchol un trac 15.5km sy’n dringo o goetir trwchus allan ar hyd cribau agored gyda golygfeydd clir o Fôr Hafren.
Mae bron pob rhan o’r dringo ar y llwybr yma yn cael ei wneud o fewn y cilomedrau cyntaf. Felly mae’r dechrau yn galed, peth ohono yn dechnegol ac yn wir bydd yn cyflymu curiad eich calon (a phrofi eich ymroddiad). Er hynny mae'n werth chweil, oherwydd bod y disgyniad yn debyg iawn i reid gyffrous, mae'n gyflym, ac yn plymio a byddwch yn wynebu ychydig o fryniau serth iawn.
SYLWER: Darllenwch 'Canllaw Llwybrau Beicio Mynydd' cyn cychwyn ar y llwybr i wneud yn siŵr mai'r llwybr hwn yw'r un gorau i'ch lefel o ffitrwydd a phrofiad.
Sut i gyrraedd:
Rhisga yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Mae Rhodfa Coedwig a Chanolfan Ymwelwyr Cwmcarn yng Nghoedwig Cwmcarn sy'n rhan o Goedwig Cwmcarn.
Arwyddion Gyrfa Goedwig oddi ar yr M4.
Fe leolir y Ganolfan Ymwelwyr (sy'n cael ei rhedeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili) tua hanner milltir o Gwmcarn ac mae'r rhodfa yn cychwyn tua hanner milltir ymhellach ar hyd yr un ffordd. Côd Post NP11 7FA
Cyfeirif Grid yr OS: ST 235 940
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
| Gyrfa Goedwig a Chanolfan Ymwelwyr Cwm Carn: Cyfleusterau. |
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() |
| Dynodiad llwybr: |
| Hyd y llwybr: 15km tua 9 milltir |
| Amser bras am y llwybr: 1-2 awr |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Howard Sims Mountain Bike Ranger e-bost: howard.sims@forestry.gsi.gov.uk |










