Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Llwybr Cerdded Rhaeadr

Am Llwybr Cerdded Rhaeadr

Taith fer o’r maes parcio i’r rhaeadr trwy geunant ochr serth gydag amrywiaeth rhywogaethau o redyn, mwsogl a chen yn glynu wrth ei ochrau. Mae’r atmosffer damp yn creu hinsawdd micro unigryw. Ar ôl cwpl o ddyddiau o law mae’r rhaeadr yn safle ysblennydd a dylai ymwelwyr wisgo dillad diddos os ydynt am gadw’n sych. Mae’n hawdd gweld pam roedd yr ymwelwyr Fictorianaidd i’r ardal, blynyddoedd yn ôl, yn meddwl ei fod yn lle arbennig. Mae’n llwybr cerdded eithaf rhwydd ac nid oes eisiau unrhyw anghenion penodol.

Sut i gyrraedd:

Maesyfed, Kington, a Presteigne yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.

Wedi’i leoli ar yr A44 ffordd Ceintun i Landrindod Wells. Tua milltir ar ol cyrraedd Faesyfed trowch i’r dde i fewn i maes parcio y cyngor (arywdd twristiaeth brown) yna dilynwch arwyddion y Comisiwn Coedwigaeth at maes parcio'r Comisiwn Coedwigaeth.

Cyfeirif Grid yr OS: SO187598
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/


Graddfa llwybr:
Sensible footwareEasyeasy access
Dynodiad llwybr:
Hyd y llwybr:
2 milltir
Amser bras am y llwybr:
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Nick Whythe
Rheolwr Ardal Lleol
0300 068 0300
e-bost: nick.whythe@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

Yn ôl y cofnodion hanesyddol roedd coed Warren yn atyniad ymwelwyr poblogaidd mwy na 150 o flynyddoedd yn ôl. Roedd yr ardal yn enwog am ei rhaeadr Ddŵr Torfynyglu a dyffryn ochr serth goediog mor bell yn ôl ar 1700au.Yn ystod canol y 1800au penderfynodd aelodau o deulu ystad Harpton wneud nodwedd o’r rhaeadr ar ddyffryn oddi amgylch. Fe grëwyd llwybr cerdded cylchol yn y dyffryn coediog ansylweddol, fe blannwyd sbesimenau o goed conwydd a llydanddail mewn mannau strategol ar hyd y llwybr er mwyn mwyhau’r golygfeydd. Fyddai ymwelwyr i dref sba cyfagos Llandrindod ynghyd â boneddigion o’u hystadau gwledig ar ffin Henffordd/Cymru yn ymweld am y dydd a mwynhau’r llwybr cerdded ar raeadr drawiadol. Roedd ôl difrod amser ar y coetir pan ddaeth i feddiant y Comisiwn Coedwigaeth yn y 50au. Roedd y llwybrau a’r coed conwydd mawr a llydanddail wedi cael eu hanghofio. Gellid gweld pedair o’r pontydd addurnedig carreg siâp bwa oedd yn croesi’r ddwy nant ond roedd y golygfeydd braf wedi diflannu . Gall y rhodfeydd ar hen goed mawr a’r pontydd carreg addurnedig dal ein darparu gyda chipolwg i mewn i gyfnod pan fyddai’r Fictoriaid yn ymweld ar ardal.

A fyddech mor garedig a gwneud yn siŵr fod yr ardal rydych am ymweld â ddim ar gau oherwydd gwaith ar ei hanner neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal , drwy ymweld â wefan CCW

fel y diffiniwyd gan Ddeddf Hawliau Tramwy Cefn Gwlad 2000.