Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Dŵr Torfynyglu

Am Dŵr Torfynyglu

Mae’r llwybr cerdded cylchol byr yma yn mynd â chi i fyny i’r golygfan lle fedrwch edrych i lawr ar draws rhaeadr Ddŵr Torfynyglu. O’r fan yma rydych yn croesi’r hen bont garreg siâp bwa gyda golygfeydd i lawr i geunant y rhaeadr. Nid yw’r llwybr cerdded yma mor ymdrechgar â llwybr Warren ond dylid gwisgo esgidiau addas.

Sut i gyrraedd:

Maesyfed, Kington, a Presteigne yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.

Wedi’i leoli ar yr A44 ffordd Ceintun i Landrindod Wells. Tua milltir ar ol cyrraedd Faesyfed trowch i’r dde i fewn i maes parcio y cyngor (arywdd twristiaeth brown) yna dilynwch arwyddion y Comisiwn Coedwigaeth at maes parcio'r Comisiwn Coedwigaeth.

Cyfeirif Grid yr OS: SO187598
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/


Graddfa llwybr:
Stout waterproof footwearModerateeasy access
Dynodiad llwybr:
blue
Hyd y llwybr:
1.1 Km tua 3/4 milltir
Amser bras am y llwybr:
1 awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Nick Whythe
Rheolwr Ardal Lleol
0300 068 0300
e-bost: nick.whythe@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

Yn ôl y cofnodion hanesyddol roedd coed Warren yn atyniad ymwelwyr poblogaidd mwy na 150 o flynyddoedd yn ôl. Roedd yr ardal yn enwog am ei rhaeadr Ddŵr Torfynyglu a dyffryn ochr serth goediog mor bell yn ôl ar 1700au.Yn ystod canol y 1800au penderfynodd aelodau o deulu ystad Harpton wneud nodwedd o’r rhaeadr ar ddyffryn oddi amgylch. Fe grëwyd llwybr cerdded cylchol yn y dyffryn coediog ansylweddol, fe blannwyd sbesimenau o goed conwydd a llydanddail mewn mannau strategol ar hyd y llwybr er mwyn mwyhau’r golygfeydd. Fyddai ymwelwyr i dref sba cyfagos Llandrindod ynghyd â boneddigion o’u hystadau gwledig ar ffin Henffordd/Cymru yn ymweld am y dydd a mwynhau’r llwybr cerdded ar raeadr drawiadol. Roedd ôl difrod amser ar y coetir pan ddaeth i feddiant y Comisiwn Coedwigaeth yn y 50au. Roedd y llwybrau a’r coed conwydd mawr a llydanddail wedi cael eu hanghofio. Gellid gweld pedair o’r pontydd addurnedig carreg siâp bwa oedd yn croesi’r ddwy nant ond roedd y golygfeydd braf wedi diflannu . Gall y rhodfeydd ar hen goed mawr a’r pontydd carreg addurnedig dal ein darparu gyda chipolwg i mewn i gyfnod pan fyddai’r Fictoriaid yn ymweld ar ardal.

A fyddech mor garedig a gwneud yn siŵr fod yr ardal rydych am ymweld â ddim ar gau oherwydd gwaith ar ei hanner neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal , drwy ymweld â wefan CCW

fel y diffiniwyd gan Ddeddf Hawliau Tramwy Cefn Gwlad 2000.