Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Llwybr Hir Coedwig Nash

Am Llwybr Hir Coedwig Nash

Fe ddechreua’r daith ddiddorol yma o’r maes parcio. Dechreuwch ddringo’n araf bach drwy’r goedwig gan ddilyn yr arwyddion coch, nes cyrhaeddwch ffordd y goedwig. Edrychwch allan am olion moch daear, llwynogod, ysgyfarnogod ac anifeiliaid gwyllt arall yn enwedig ar hyd llethrau, cysgodol isaf y goedwig.

Unwaith rydych ar ffordd y goedwig fyddwch yn medru mwynhau’r golygfeydd gogoneddus yn ôl dros Lanandras ac ymhellach at fynyddoedd y Gororau Cymreig yn y pellter. Dilynwch y ffordd am dipyn bach ac yna mae yna gyfle i chi ddilyn y ffordd fer i lawr y mynydd (saethau glas) ac yn ôl i’r maes parcio neu medrwch gario ymlaen ar y llwybr coch sydd yn dechrau dringo i fyny i fan uchaf y goedwig.

O’r fan yma fedrwch edrych tua’r de at ddyffryn Maesyfed ac yn y pellter Swydd Henffordd. O’ch blaen mae Burfa Bank hen fryngaer yr Oes Haearn, un o lawer ohonynt ar y goror Saesneg/Cymraeg. I’r de orllewin fedrwch weld fforest Maesyfed yn y pellter gyda siâp nodedig bryn Whimple a thref Maesyfed yn y dyffryn islaw. Ar y rhan yma’r daith mae gennych siawns o weld un o’r Iyrchod sydd yn byw yn y goedwig. Mae coedwig Nash yn gynefin delfrydol i weld Boncathod a Gosogion.

O’r fan yma fyddwch yn mynd i lawr y mynydd drwy wahanol goetiroedd a chynefinoedd dydd yn cynnal amrywiaeth o rywogaethau o adar e.e. Pilaod Gwyrddion a Croesbigau sydd yn ffynnu ar goed mawr ffynidwydd Douglas a Urddasol sy’n dwyn conau. Yng ngwaelod yn goedwig fyddwch yn ymuno gyda ffordd y goedwig ac ar y chwith tŷ Cold Harbour, un o’r hen dyddynnod lle’r oedd gweithwyr lleol yn arfer byw ond nawr mae wedi cael ei foderneiddio.

Wrth gyrraedd ddiwedd y daith ddewch ar gyfyl ardal gymysg o goetir sydd â choedlan fawr o gollen, sydd yn gynefin delfrydol i’r pathew warchodedig. O’r fan yma mae gennych daith fer yn ôl i’r maes parcio.

Sut i gyrraedd:

Presteigne yw'r dref neu'r pentref agosaf.

Mynedfa o'r B4355 ffordd osgoi Presteigne. Cymerwch y troad gyferbyn a'r ysgol.

Cyfeirif Grid yr OS: SO306625
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Bywyd Gwyllt

Mamaliaid: Mae’r goedwig yma yn cynnal gyr fawr o Iyrchod, ond fyddwch yn lwcus iawn i gael cip ar un ohonynt gan eu bod yn symud yn gyflym a thawel o amgylch y goedwig. Y pathew warchodedig yw un o feddiannau gwerthfawr Coedwig Nash. Hefyd fedrwch weld anifeiliaid mwy cyffredin y goedwig sef llwynogod, moch daear ag ati yn enwedig peth cyntaf yn y bore a gyda’r nos. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Iwrch

Adar: Mae gan Goedwig Nash amgylchiadau delfrydol i gynnal llawer rhywogaeth o adar, e.e. adar hela, Boncathod, Gosogion a’r Barcud Coch. Mae’r ffynidwydd Urddasol a Douglas gyda’u conau mawr yn cynnal Pilaod Gwyrddion a Croesbigau. Hefyd fyddwch yn medru gael cip ar adar cyffredin.

Coedwig Nash: Cyfleusterau.
Easy Access
Graddfa llwybr:
Stout waterproof footwearModerateeasy access
Dynodiad llwybr:
red
Hyd y llwybr:
3.3 cilomedrau o dan tua 2 filltir milltir
Amser bras am y llwybr:
1 1/2 oriau
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Nick Whythe
Rheolwr Ardal Lleol
0300 068 0300
e-bost: nick.whythe@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

A fyddech mor garedig a gwneud yn siŵr fod yr ardal rydych am ymweld â ddim ar gau oherwydd gwaith ar ei hanner neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal , drwy ymweld â wefan CCW fel y diffiniwyd gan Ddeddf Hawliau Tramwy Cefn Gwlad 2000.


Safleoedd defnyddiol