Am Llwybr Tarddle Hafren
Yn ddiweddar, agorwyd ffordd newydd gyffrous at y tarddiad. Dilynwch y marcwyr gwyn. Ar ôl cyrraedd ffin y goedwig, mae’r 2/3 o filltir olaf at Tarddiad Afon Hafren yn mynd â chi drwy tir gwlyb a chorsiog. Mae hwn yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Pumlumon.
Mae postyn pren mawr yn nodi’r Tarddiad, ar uchder o 620 metr neu 2043 troedfedd. Mae’r ffordd yn ôl ar agor bellach. Wrth ddychwelyd i’r goedwig o’r Tarddiad, trowch i’r dde ar ffordd y goedwig a dilynwch y marcwyr gwyn am tua milltir nes i chi ddod at raeadr. Dilynwch y llwybr a farciwyd i lawr yr allt heibio mwynglawdd copor o’r Oes Efydd ac yna heibio olion mwynglawdd plwm Nant yr Eira. Daliwch i ddilyn y llwybr i lawr i Afon Hore, a’r holl ffordd yn ôl at y bont gyntaf i chi ei chroesi. Hefyd, mae’n bosibl i chi gyrraedd Pen Pumlumon Arwystli (741metr) drwy ddilyn y mapiau ar y safle. Mae golygfeydd gwych oddi yma, a bydd yn werth chweil i chi ddringo’r 3.7km neu 2.3 milltir ychwanegol (tua awr a hanner yn ychwanegol).
Y unol â rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy fe fydd rhannau o’r llwybr yma ar gau oherwydd gwaith cynaeafu. Dilynwch y cyfarwyddyd sydd ar yr arwyddion.
SYLWER OS GWELWCH YN DDA: Fe fydd rhan o’r llwybr yma yn cael ei dargyfeirio oherwydd gwaith cynnal a chadw. Cymerwch sylw o’r arwyddion os gwelwch yn dda.
Sut i gyrraedd:
Llanidloes yw'r dref neu'r pentref agosaf.
O ganol tref Llanidloes trowch i wynebu Neuadd y Farchnad o Ffordd y Dderwen Fawr a dilynwch Ffordd y Bont Fer yn union gyferbyn. Dilynwch y ffordd gul i'r Hen Neuadd. Mae safle picnic Rhydybenwch 6 milltir i'r gorllewin o Lanidloes. Mae modd ei gyrraedd hefyd o ben gogleddol Llyn Clywedog ar y ffyrdd bach.
Cyfeirif Grid yr OS: SN 857 869
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Bywyd Gwyllt
Cynefinoedd: Grug, Grug Deilgroes, Plu’r Gweunydd a Llygaeron, gyda thoreth o fwsogl, cnwpfwsogl a chen.
| Safle Picnic Rhydybenwch: Cyfleusterau. |
![]() ![]() ![]() ![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() ![]() |
| Dynodiad llwybr: |
| Hyd y llwybr: 7 milltir |
| Amser bras am y llwybr: 4½ awr |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Jim Ralph Rheolwr Ardal Lleol 0300 068 0300 e-bost: jim.ralph@forestry.gsi.gov.uk |







