Am Llwybr Pen-rhys - Llwybr Gwyrdd
Cychwynnwch ar eich taith o faes parcio Rhyslyn. Mae’r llwybr yn esgyn yn raddol uwch Bont-rhyd-y-fen, ac yn edrych dros y man lle ganwyd yr actor Richard Burton. Adeiladwyd y draphont hynod ym 1825 i gario dŵr ar draws y cwm i Waith Glo a Haearn Oakwood. Ymysg y golygfeydd o Bort Talbot i Lanymddyfri gellir gweld hen gloddfeydd cerrig Ton-mawr yn erbyn bryniau Cwm Tawe uchaf a Bannau Sir Gaer yn y pellter. Dilynwch y gefnffordd hynafol a gysylltai Eglwys Baglan â Chraig y Llyn, gan fynd heibio i adfail hanesyddol Capel Gyfylchi. O hyn ymlaen, mae’r llwybr yn disgyn drwy goetiroedd Pîn a Llarwydd i lawr i Gwm Afan islaw.
Sut i gyrraedd:
Pontrhydyfen yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Mae Rhyslyn wedi ei leoli ym Mharc Goedwig Afan sy'n rhan o Barc Coedwig Afan
O'r A4107, trowch i lawr y B4287 i gyfeiriad Pontrhydyfen. Tro serth i'r dde yn syth ar ôl y bont wrth i'r ffordd fynd am y chwith.
Cyfeirif Grid yr OS: SS820 950
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
| Rhyslyn: Cyfleusterau. |
![]() ![]() ![]() ![]() |
| Graddfa llwybr: |
![]() ![]() |
Dynodiad llwybr:
|
| Hyd y llwybr: 3.5 milltir |
| Amser bras am y llwybr: 2 awr |
| Ar agor neu ar gau: Ar agor |
| Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma. |
Cyswllt: |
| Jon Price 0300 068 0300 e-bost: jonathan.price@forestry.gsi.gov.uk |








