Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  

 


Taith Gerdded Argoed
 

Arloeswch cwm bychan Nant Cynon wrth i chi ymdroelli ar hyd llwybrau mwsoglyd gan ddringo trwy goetiroedd o Fedw, Derw, Onnen a Gwern sydd yn cuddio hen greithiau diwydiannol y cwm o dan eu prydferthwch. Mae swn y dwr yn agos bob amser ar y llwybr hwn, boed yn llifo'n dawel trwy'r llu o rigolau ymhlith y coed neu'n byrlymu yn Nant Cynon sydd yn eich arwain yn ôl i'r Ganolfan.

Sut i gyrraedd:

Taith Gerdded Argoed can be started from Canolfan Ymwelwyr Coedwig Afan in Parc Coedwig Afan which is part of Parc Coedwig Afan. Cynonville yw'r dref neu'r pentref agosaf.

Ar yr A4107 - dilynwch y ffordd o'r M4, Cyffordd 40 am tua 6 milltir. Gwyliwch am yr arwyddion am Ganolfan Cefn Gwlad Afan Argoed.

Cyfeirif Grid yr OS: SS 820 950


Canolfan Ymwelwyr Coedwig Afan: Cyfleusterau.
ToiletsParking ChargeInformationEasy AccessVisitor CentreRefreshmentsForest ShopOther Facilities
Graddfa llwybr:
Sensible footwareEasy
Dynodiad llwybr:
green
Hyd y llwybr:
3.5 milltir
Amser bras am y llwybr:
2 Awr a hanner
Ar agor neu ar gau:
Ar agor


Beth sydd o ddiddordeb
Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

Ceir toreth o fwsog a chen epiffytig yn tyfu ar y coed llydanddail ar hyd y llwybr hwn, yn dangos purdeb yr awyr yn y cwm a fu'n safle diwydiannau trwm yn y gorffennol. Yn ystod misoedd yr haf, gwelir y Bi-Fach a Dryw'r Helyg ac mae olion o'r Oesoedd Haearn ac Efydd i'w gweld ar y bryniau o gwmpas.

Canllaw Taith Argoed
340kb PDF



to DirectGov