Llwybr Crib Gyfylchi
Mae’r llwybr hwn, sy’n cynnig cryn her, yn croesi Afon Afan yng ngwaelod y cwm ac yna’n dringo drwy goetiroedd Llarwydd, Pīn a Sbriws hyd at uchder o 1,000 o droedfeddi! O’r safle hwn cewch olygfa odidog o’r dyffryn islaw. Cyn mynd i lawr unwaith eto, mae’r llwybr yn croesi drwy diroedd agored ffermydd mynydd nes cyrraedd adfeilion Capel Gyfylchi, sy’n dyddio o’r 18fed ganrif. Bu’r capel hwn unwaith yn un o gysegrfannau Methodistiaeth Gymreig.
Sut i gyrraedd:
Llwybr Crib Gyfylchi can be started from Canolfan Ymwelwyr Coedwig Afan in Parc Coedwig Afan which is part of Parc Coedwig Afan. Cynonville yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Ar yr A4107 - dilynwch y ffordd o'r M4, Cyffordd 40 am tua 6 milltir. Gwyliwch am yr arwyddion am Ganolfan Cefn Gwlad Afan Argoed.
Cyfeirif Grid yr OS: SS 820 950