Llwybr Beicio Cwm Afan
Mae’r llwybr hwn, sydd ar lethr graddol, yn dilyn llwybr llydan gwastad yr hen reilffordd a fu unwaith yn cludo teithwyr a glo ar hyd y cwm. Mae 14 milltir o hen lwybr rheilffordd a ffordd goedwig yn cysylltu cymunedau Pont-rhyd-y-fen a Blaengwynfi ac yn troelli drwy goedwig a mannau agored a oedd unwaith yn seidins rheilffordd. Mae hen orsaf Cynonville wedi cael ei throi yn gysgodfan a safle barbeciw, ac mae nifer o feinciau a byrddau picnic ar hyd y llwybr fel y gallwch aros i fwynhau’r olygfa.
Sut i gyrraedd:
Llwybr Beicio Cwm Afan can be started from Canolfan Ymwelwyr Coedwig Afan in Parc Coedwig Afan which is part of Parc Coedwig Afan. Cynonville yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Ar yr A4107 - dilynwch y ffordd o'r M4, Cyffordd 40 am tua 6 milltir. Gwyliwch am yr arwyddion am Ganolfan Cefn Gwlad Afan Argoed.
Cyfeirif Grid yr OS: SS 820 950