Llwybr Cefndeuddwr
Tro sy’n codi’n raddol trwy goetir cymysg a chaeau cerrig mawrion ar lwybrau llydan ag wyneb da’n arwain at Gefndeuddwr lle mae man i edrych ar yr olygfa a byrddau picnic. Mae’r tro hwn yn addas i’r teulu cyfan, gan gynnwys cadeiriau gwthio. Nid oes grisiau na chamfeydd ac mae mannau gorffwys fesul 150m.
Sut i gyrraedd:
Llwybr Cefndeuddwr can be started from Canolfan Ymwelwyr Maesgwm in Coed y Brenin. Dolgellau yw'r dref neu'r pentref agosaf.
I’r dwyrain o’r A470, 8 milltir gogledd o Ddolgellau, ychydig i ogledd Ganllwyd, de o Drawsfynydd. Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown.
Cyfeirif Grid yr OS: SH 725 272