Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Llwybr Coed Alltfedw

Am Llwybr Coed Alltfedw

Gan gychwyn o faes parcio'r Gelli Ddu, dilynwch yr arwyddion yn ôl ar hyd y ffordd gyhoeddus. Mae'r llwybr yn arwain yn serth i fyny'r rhiw o dan goed Poplys, heibio cronfa ddwr fach a thrwy goetir cymysg a blannwyd ym 1949/50, gan ddod allan ar safle hen gaer Alltfedw sydd yn cynnig golygfeydd hardd ar draws y bryniau a'r dyffrynnoedd. Er bod magwyr uchel y gaer yn fylchog, mae'r olion yn drawiadol. Yn feithrinfa coed gynt a blannwyd â Ffynidwydd llwydlas am goed Nadolig, 'roedd y llecyn yn boblogaidd iawn gydag ieir bach yr haf. Wrth i'r coed aeddfedu lleihaodd niferoedd y trychfilod, ond rheolir y llecyn unwaith eto i ffafrio dychweliad y Paun, y Fantell Goch, Brith y Coed, y Copor Bach, a rhywogaethau'r Brithion a ffynnai yma gynt.

Sut i gyrraedd:

Trawsgoed yw'r dref neu'r pentref agosaf.

Yn ymyl y B4340 o Aberystwyth i Drawsgoed. Mae'r maes parcio 1 km i'r de o Abermagwr. Trowch i'r dde ar draws y bont (arwydd: Llanilar B4575) yna trowch i'r chwith ar unwaith ac yna i'r chwith unwaith eto i mewn i'r maes parcio.

Cyfeirif Grid yr OS: SN 667 729
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Bywyd Gwyllt

Mamaliaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Mochyn daear

Adar: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Barcud coch

Pryfed ac ymlusgiaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Brith arianresog, Brith Perladeiniog

RESERVOIR ON THE COED ALLT FEDW WALK BLACK COVERT

Safle Picnic Gelli Ddu: Cyfleusterau.
Parking
Graddfa llwybr:
Stout waterproof footwearModerate
Dynodiad llwybr:
red
Hyd y llwybr:
2 milltir
Amser bras am y llwybr:
Awr a hanner
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Tony Ellis
Area Manager
01974 282540
e-bost: tony.ellis@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

Dyma daith gerdded hyfryd o gwmpas coetir cymysg deniadol.


Safleoedd defnyddiol