Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Llwybr Coetir Y Bwa

Am Llwybr Coetir Y Bwa

Byddwch yn dod ar draws amrywiaeth eang o gynefinoedd coetir croesawus. Y mwyaf trawiadol o bosibl yw'r Ffawydd a blannwyd gan Thomas Johnes 200 mlynedd yn ôl. 'Roedd Johnes yn arloeswr coedwigaeth y tir uchel, yn byw ar Ystâd yr Hafod gerllaw (bu'r coetir hwn yn rhan ohono). Oherwydd oedrannau a rhywogaethau cymysg y coed yma, mae toreth o adar i'w gweld yma. Cewch weld y Gigfran, y Curyll Coch a'r Curyll Glas, y Pen-goch, yr Yswidw Cynffon Hir, a'r Groesbig. Cadwch lygad allan hefyd am y Barcud Coch godidog.

Sut i gyrraedd:

yw'r dref neu'r pentref agosaf.

Cyfeirif Grid yr OS: SN 765 756
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Bywyd Gwyllt

Mamaliaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Mochyn daear

Adar: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Barcud coch

Graddfa llwybr:
Sensible footwareModerate
Dynodiad llwybr:
yellow
Hyd y llwybr:
1 milltir
Amser bras am y llwybr:
Tri chwarter awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Tony Ellis
Area Manager
01974 282540
e-bost: tony.ellis@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

Os ydych wedi mwynhau'r teithiau cerdded yn ardal Y Bwa byddwch yn gwerthfawrogi'r rhai ar Ystâd yr Hafod gerllaw


Safleoedd defnyddiol