Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  

 


Llwybr y Mwynwyr
 

Mae'r llwybr yn dechrau o Ganolfan yr Ymwelwyr gan ymdroelli ar flaen y dyffryn, yn dilyn cafn a gludai ddwr o Lyn Pendam i'r hen fwyngloddiau plwm yng Nghwmbrwyno. Mae'r Curyll, y Boncath, y Gigfran a'r Barcud Coch trawiadol i'w gweld yma, yn codi yn y chwaon sydd yn dringo o'r dyffrynnoedd ffrwythlon islaw. Mae dringa fer yn croesi llethr o dan orchudd o rūg porffor a llus gleision ac yna mae'r llwybr yn disgyn trwy goetir o Larwydd a blannwyd yn gynnar yn a 1960au, i Bwll Llywernog lle y cewch orffwys ar lan y dyfroedd cyn dychwelyd i Ganolfan yr Ymwelwyr.

Sut i gyrraedd:

Llwybr y Mwynwyr can be started from Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian in Nant yr Arian. Ponterwyd yw'r dref neu'r pentref agosaf.

10 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth ar yr A44, dwy filltir i'r gorllewin o Bonterwyd. Mae bws rhif 525 o Aberystwyth i Bonterwyd yn aros wrth fynedfa'r maes parcio.

Cyfeirif Grid yr OS: SN718813

Adar: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Barcud coch


Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian: Cyfleusterau.
ToiletsParking ChargeInformationEasy AccessVisitor CentreRefreshmentsForest Shop
Graddfa llwybr:
Stout waterproof footwearModerate
Dynodiad llwybr:
yellow
Hyd y llwybr:
1 1/2 milltir
Amser bras am y llwybr:
Awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor


Beth sydd o ddiddordeb
Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

Cadwch lygad allan i weld un o adar ysglyfaethus prydferthaf Cymru yn hedfan yn yr awyr. Bwydir y Barcudiaid ar lan y llyn ger y Ganolfan Ymwelwyr am 2 y p GMT bob dydd.

A ydych chi wedi clywed yr hanes am ein tylwyth teg tanddaearol lleol? Gallwch wrando ar eu stori ar ein blychau sain weindio, sydd wedi eu lleoli ar hyd y daith neu wrando ar y clip sain.

Hanes y "Cnocwyr" (MP3)


Beth sydd ymlaen


to DirectGov