Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  

 


Llwybr yGrib
 

Mae'r llwybr godidog hwn yn dechrau o Ganolfan yr Ymwelwyr gan roi golygfeydd anhygoel ar ei hyd. Gan ddechrau ar hyd y gefnen uchel sydd yn edrych i lawr ar Nant yr Arian, mae'r llwybr yn codi i olygfan faen lle mae'r golygfeydd yn ymestyn o ddyffrynnoedd Rheidol a Melindwr, Bae Ceredigion y tu hwnt i Aberystwyth, a Phumlumon, mynydd uchaf y Canolbarth. Ar ben pellaf y daith y mae llynnoedd Blaenmelindwr a Phendam sydd yn cynnig cyfle i chi weld amrywiaeth o adar dwr gan gynnwys hwyaid gwylltion ac, yn y gaeaf, hwyaid llygad aur. Mae'r daith yn ôl i Fwlch Nant yr Arian ar hyd llwybr coedwig tawel lle mae modd i chi weld adar mân fel Dryw'r Helyg, yr Yswidw Benddu a'r Eurben. Mae llawer o ieir bach yr haf i'w gweld, gan gynnwys y modrwyog, brith y coed a llwyd y ddôl. Yn yr haf, mae llus bach yn gorchuddio'r llethrau serth hyn.

Sut i gyrraedd:

Llwybr yGrib can be started from Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian in Nant yr Arian. Ponterwyd yw'r dref neu'r pentref agosaf.

10 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth ar yr A44, dwy filltir i'r gorllewin o Bonterwyd. Mae bws rhif 525 o Aberystwyth i Bonterwyd yn aros wrth fynedfa'r maes parcio.

Cyfeirif Grid yr OS: SN718813

Adar: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Barcud coch

Pryfed ac ymlusgiaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Gwiber

Cynefinoedd: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Coed pinwydd


Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian: Cyfleusterau.
ToiletsParking ChargeInformationEasy AccessVisitor CentreRefreshmentsForest Shop
Graddfa llwybr:
Stout waterproof footwearModerate
Dynodiad llwybr:
red
Hyd y llwybr:
5 1/2 milltir
Amser bras am y llwybr:
2 awr a hanner
Ar agor neu ar gau:
Ar agor


Beth sydd o ddiddordeb
Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

Mae'r golygfeydd o'r daith hon yn anhygoel.

A oeddech chi’n gwybod i Owain Glyndŵr ymladd brwydr leol bwysig gerllaw a bod yr awdur teithiau Fictoraidd George Borrow wedi ysgrifennu am y lle? Defnyddiwch ein blychau sain weindio i ganfod mwy am yr hanes lleol neu gwrandewch ar y clipiau sain.

Owain Glyndwr - Brwydr 'Hyddgen' (MP3)

George Borrow - 'Wild Wales' (MP3)


Beth sydd ymlaen


to DirectGov