Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Llwybr Cofeb Bedford

Am Llwybr Cofeb Bedford

Mae'r llwybr hwn yn mynd ar hyd cefnen Cefn Creigiau ac yn cynnig golygfeydd gwych o'r ystâd. Gallwch osgoi fynd i lawr i'r dyffryn hefyd. Mae'r llwybr yn gadael y maes parcio ac yn dilyn un o ffyrdd yr ystâd am bellter bach, yna mae'n troi i'r chwith ar hyd ymyl coetir, gyda golygfeydd ar draws porfeydd i Fwthyn Hawthorn a Phendre, safle fferm y plas. Ar ôl dringo ychydig fe gyrhaeddwch wylfan ac obelisg, a godwyd ym 1805 i goffáu Francis, 5ed Dug Bedford, "the most judicious and munificent promoter of the National Agriculture". Os cerddwch i lawr igam-ogam fe gyrhaeddwch y llwybr yn ôl i'r eglwys.

Sut i gyrraedd:

Cwmystwyth yw'r dref neu'r pentref agosaf.

O Westy Arfau'r Hafod ym Mhont-ar-Fynach dilynwch y B4574 i Gwmystwyth. Ewch heibio maes parcio'r Bwa gan fynd ymlaen i lawr y rhiw. Trowch i'r dde ychydig ar ôl mynd heibio arwydd "Cwmystwyth". Ewch trwy ADAS Pwllpeiran gan fynd ymlaen i gyffordd-T a throwch i'r dde. Ewch heibio Eglwys yr Hafod gan droi i mewn i Faes Parcio'r Hafod. O Bontrhydygroes ewch tua'r gogledd ar y B4343 gan droi i'r dde ar y B4574 i gyfeiriad Cwmystwyth wrth i chi weld arwydd Hafod y Comiswin Coedwigaeth. Ewch ar hyd y ffordd am filltir. Mae Maes Parcio'r Hafod ar y dde.

Cyfeirif Grid yr OS: SN 768 737
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Bywyd Gwyllt

Adar: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Barcud coch

Pryfed ac ymlusgiaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Glöyn ffridd fawr, Brith arianresog

Maes Parcio'r Hafod: Cyfleusterau.
InformationParking
Graddfa llwybr:
Stout waterproof footwearModerate
Dynodiad llwybr:
white
Hyd y llwybr:
1 milltir
Amser bras am y llwybr:
3/4 awr
Ar agor neu ar gau:
Ar agor
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau yn y goedwig yma.

Cyswllt:

Tony Ellis
Area Manager
01974 282540
e-bost: tony.ellis@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Rhybudd - Gall y llwybrau fod yn llithrig oherwydd y tywydd gwael. Cymerwch ofal pan fyddwch yn y goedwig. Dylid gwisgo esgidiau addas ar bob adeg.

Safleoedd defnyddiol