Mae darn un trac byr yn rhoi cyfle i chi gynhesu cyn dechrau ar y llwybr serth. Llwybr technegol heb unrhyw gysgod mewn tywydd garw.
O'r diwedd ar ôl brwydro yn erbyn yr haul, gwynt a glaw mae'r rhan reid-rhydd newydd (graddedig ddu) wedi agor yng Nghwmcarn.
Mae'r rhan newydd wedi ei leoli oddi ar y Llwybr Twrch XC ac yn ddolen opsiynol 1 cilomedr. Cafodd ei gynllunio mewn ffordd y gellid mynd arno drosodd a throsodd. (ond gwyliwch, cadwch ychydig o'ch egni, gan fod yna dipyn o lwybr bendigedig ar ôl i'w feicio cyn cyrraedd yn ôl yn i'r safle cychwynnol.)
Ceir nifer o agweddai a sialensiai technegol yn yr adran yma (sy'n ddienw ar hyn o bryd) gan gynnwys ysgafellau, neidiau, arisiau dwbl, wyneb bwrdd, disgynfeydd pren, corc sgriw ac yn olaf bwnd pridd, wal bren gyfunol i bob lefel o feicwyr i fynd yn uwch ac yn uwch (pob lwc).
Gall y beicwyr XC fwy traddodiadol y rhai hynny sy'n ffafrio a mwynhau'r llwybr fel y cafodd ei adeiladu yn y lle cyntaf, dal i feicio'r llwybr fel arfer, gan mae dim ond un rhan ohono sydd wedi cael ei newid sef dechrau'r 'llif awyr' (Airstream) ( yr adran disgyniad sengl cyntaf).
Mae'r newid newydd yma wedi cael ei adeiladu yn unol â'r prif lwybr.
Fel gyda phob llwybr newydd, aseswch y cynllun a lefelau technegol/anhawster cyn mynd i feicio'n ddiofal.
Sut i gyrraedd:
Twrch can be started from Gyrfa Goedwig a Chanolfan Ymwelwyr Cwm Carn in Coedwig Cwm Carn which is part of Coedwig Cwm Carn. Rhisga yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Arwyddion Gyrfa Goedwig oddi ar yr M4. Mae'r Ganolfan Ymwelwyr tua hanner milltir o Gwm Carn ac mae Gyrfa Goedwig Cwm Carn yn dechrau hanner milltir nes ymlaen ar yr un ffordd.
Cyfeirif Grid yr OS: ST 235 940