Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru
Wood Energy

Dyfodol Tanwydd Pren : Y Potensial

Mae Ynni Adnewyddadwy yn rhan allweddol o’n Polisi Ynni. Mae Llywodraeth y DG yn anelu at gael 20% o'r trydan sy'n cael ei gynhyrchu o Ynni Adnewyddadwy erbyn 2020.

Mae Ynni Adnewyddadwy yn rhan allweddol o’n polisi ynni. Mae Llywodraeth y DG yn anelu at gael 20% o'r trydan sy'n cael ei gynhyrchu o ynni adnewyddadwy erbyn 2020. Fe ddylai hyn olygu 60% yn llai o allyriadau carbon o danwydd ffosil erbyn y flwyddyn 2050. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi pennu targed o gynnydd o 10% yn yr ynni glân sy’n cael ei gynhyrchu erbyn 2010, ac mae wedi ymrwymo i wneud enghraifft o Gymru ar gyfer cynhyrchu ynni glân. Mae Strategaeth Goetir y Cynulliad (Coetiroedd i Gymru) yn cefnogi datblygu ynni adnewyddadwy o danwydd pren.

O’r holl dechnolegau ynni glân, tanwydd pren sydd â'r effaith bositif orau ar gyflogaeth. Wrth gynhyrchu trydan a gwres o bren, daw manteision megis darparu swyddi ac incwm i gymunedau gwledig, a hyrwyddo rheolaeth goetir gynaliadwy. Mae polisi Cynulliad Cymru yn pwysleisio’r angen am ddefnydd adnewyddadwy er budd cymunedau lleol: mae tanwydd pren yn enghraifft berffaith o sut mae modd cyflawni hyn.