Comisiwn Coedwigaeth

Mae corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd drosodd y swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Bydd ychydig o wasanaethau ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael eu darparu ar y wefan hon am gyfnod cyfyngedig.

Cymdeithas Ymddeol y Comisiwn Coedwigaeth (Gogledd Cymru)

Couple walking along a forest trailMae croeso i weithwyr y Comisiwn Coedwigaeth sydd wedi ymddeol (yn ogystal ar rhai hynny sydd ar fin ymddeol), beth bynnag oedd eu swydd, i ymuno â Chymdeithas Ymddeol y Comisiwn Coedwigaeth a chael eich trin yn gyfartal. Dim ond un nod sydd yn y bôn, a hynny yw byw bywyd i'r eithaf a chadw mewn cysylltiad â 'hen' ffrindiau: a dyma beth yw nod Cymdeithas Ymddeol y Comisiwn Coedwigaeth. Rydym yn trefnu tri ymweliad allan yn yr awyr agored i leoliadau diddorol yng Ngogledd Cymru yn flynyddol ac mae llawer yn ymuno â'n hymweliadau. Er enghraifft yn y blynyddoedd diweddar rydym wedi ymweld â Choed y Brenin ger Dolgellau, Y Mynydd Gwefru yn Llanberis, Neuadd Erddig ger Wrecsam a rheilffordd stêm Llanfair Caereinion/Y Trallwng. Mae'r niferoedd sydd yn mynychu bob amser yn dda (gall fod tua 30) ac maent yn cael y gofal gorau gan ein gwahoddwyr. Rydym gan amlaf yn cwrdd tua hanner dydd am ginio picnic i ddechrau y rhan cymdeithasol o'r diwrnod, ac yna gorffen am tua 5.00pm.

At hynny rydym yn cynnal Cinio Nadolig yn flynyddol, fel arfer yn dechrau mis Rhagfyr a lan i 60 0 aelodau a ffrindiau yn ymuno gyda ni am ddigwyddiad cymdeithasol da.

Playing a wooden xylophone at Coed y Brenin visitor centre.

Gellir gweld adroddiad byr a lluniau am ein hymweliadau dros y blynyddoedd diweddaraf ar ein tudalen digwyddiadau. Hefyd mae gennym wybodaeth am ein hymweliadau am y gweddill o'r flwyddyn.

Gall unrhyw berson sydd wedi ymddeol a chymar dod yn aelodau am oes am £20 neu dalu tanysgrifiad blynyddol o £3 (cyfradd bresennol). Yn ogystal mae croeso i gymheiriaid a theulu ymuno gyda ni a gwneud y gyrru.