Mae ymweliadau addysg yn rhad ac am ddim i grwpiau ac ysgolion yng Nghymru ac mae'r gweithgareddau i gyd wedi eu cynllunio, risg asesu a'u harwain gan Swyddog Addysg Comisiwn Coedwigaeth Cymru. Gall gweithgareddau cael eu haddasu i gwrdd ag anghenion, themâu ac oedran eich grŵp. Mae adnoddau cyn yr ymweliad ac ar ôl yr ymweliad ar gael ar gyfer rhai sesiynau.
Dyma rhai esiamplau o weithgareddau:
- Cyfnod Sylfaen/ Cyfnod Allweddol 1: Synhwyrau’r Goedwig - Archwiliwch y goedwig drwy ddefnyddio eich synnwyr o arolygu, chyffwrdd, golwg a chlyw.
- Cyfnod Allweddol 2: Newid yn yr Hinsawdd - Dysgwch am newid yn yr hinsawdd drwy ddefnyddio gemau ymarferol a gweithgareddau.
- Cyfnod Allweddol 2: Celf yn y Goedwig - Amrywiaeth o weithgareddau hwyliog sydd wedi cael eu cynllunio i archwilio lliw, gwead a siâp. Lluniwch gerfluniau mawr a darluniau bach drwy ddefnyddio deunyddiau naturiol o'r goedwig.
- Cyfnod Allweddol 2 a 3: Adeiladu lloches - Dysgwch am gartrefi anifeiliaid, nythod a pham maent yn eu hangen, e.e. ar gyfer cysgod a nodded. Mewn grwpiau adeiladwch lochesau neu nythod o ddeunyddiau naturiol.
- Pob oedran: Plannu Coed - Dysgwch am wahanol goed a'u pwysigrwydd i ni a'r amgylchedd. Plannwch ychydig o goed i weld sut maent yn medru helpu i wella ardal ar gyfer fywyd gwyllt, cysgod a dysgu.
I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu ymweliadau, cysylltwch â’ch swyddog addysg lleol.
Llwybrau hunan dywys - Mae teithiau coetir hunan-dywys ar gael yn rhai o’n coetiroedd. A fyddech cystal â nodi, os ydych yn dymuno arwain yr ymweliad eich hun, y bydd yn rhaid i chi gysylltu â’ch swyddog addysg lleol ymlaen llaw i drefnu’r safle.

