Prosiect partneriaeth yw hwn rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Grŵp Astudio Adar Ysglyfaethus Cymru. Mae’r cynllun yn cynnig cyfle unigryw i wylio delweddau ar sgrîn o nyth boda’r mêl yn ne Cymru. Gall ymwelwyr weld y cywion ifanc yn datblygu gan gynnwys eiliadau o agosatrwydd o ran bwydo ac ymddygiad. Mae mangre arddangos ffotograffau a gwybodaeth yn cyd-fynd â’r cyfle i wylio. Bydd gwirfoddolwyr gwybodus a chyfeillgar yno bob dydd i siarad â’r cyhoedd am y cynllun a’r adar. Nid oes cyfle i wylio bodaod y mêl yn eu cynefin ac rydym yn cadw lleoliad y nyth yn gyfrinach er mwyn gwarchod yr adar. |
© Steve Roberts |
Manylion y prosiect: sefyllfa’r nyth
Tymor 2007 Ar 11 Mai ymddangosodd y ceiliog boda gan ddechrau adnewyddu’r nyth gyda brigau conwydd irlas. Ar 22 Mai ymunodd yr iâr â’i chymar ac aeth adeiladu’r nyth yn ei flaen. Dyma’r tro cyntaf i gychwyn adeiladu nyth boda’r mêl gael ei weld yn y DU. Fe hedfanodd y cywion o’r nyth yng nghanol mis Awst. Yn gynnar ym mis Medi fyddant wedi dechrau ar eu hymfudiad i’r Affrig. |
Tymor 2006 Dodwyodd yr iâr ddau wy ym Mehefin. Deorodd y cywion ar 11 Gorffennaf neu tua’r dyddiad hwnnw. Er mwyn peidio ag amharu ar y nyth ni ddechreuwyd ffilmio tan fo’r cywion tua 10 niwrnod oed. 20fed Gorffennaf – Un cyw yn tyfu’n gynt na’r llall, ond mae’r oedolion yn sicrhau bod y ddau yn cael bwyd. |
Tymor 2005 Lansiwyd y prosiect yn llwyddiannus ar Ddydd Gwener 15 Gorffennaf, 2005, yng nghanolfan ymwelwyr Parc Coedwig Afan yng nghwm Afan ym Mhort Talbot. Gwelwyd cannoedd o ymwelwyr a chreodd gyffro a chefnogaeth leol. Dodwyodd yr iâr ddau wy ym Mehefin. Deorodd y cyw cyntaf dros nos ar Nos Lun 4 Gorffennaf / ben bore Dydd Mawrth 5 Gorffennaf, ond gwaetha’r modd cafodd ei chwythu oddi ar y nyth gan wyntoedd cryfion. Deorodd ail gyw ar Ddydd Iau 7 Gorffennaf, a thyfodd yn iach, a llwyddasom ninnau i ddangos lluniau rhyfeddol o’r iâr yn dod â nythod gwenyn meirch a llyffantod yn fwyd i’r un ifanc. Drwy gydol y prosiect yn 2005, ni welwyd mo’r ceiliog boda ar gyfyl safle’r nyth. Y diwedd trist oedd i’r cyw oedd ar ôl gael ei gipio gan aderyn gosog. Mae’r ffaith fod adar prin ac anghyffredin yn cael eu rheibio gan adar ysglyfaethus, gan gynnwys gosogion, yn ddigon hysbys. Er ei bod hi’n drist i foda’r mêl golli’r cyw oedd ar ôl i’r gosog, mae’n annhebygol i hyn gael effaith arwyddocaol ar boblogaeth bodaod y mêl yng Nghymru. At ei gilydd, mae atgenhedlu bodaod y mêl yng Nghymru, ers dod o hyd i’r nyth cyntaf yn 1991, wedi bod yn dda iawn. Y tebyg yw bod ymhell dros 400 o barau o osogion yng Nghymru bellach (ni wyddys mo’r union nifer gan nad oes arolwg cyflawn wedi bod). Maent yn adar ysglyfaethus effeithiol dros ben ac maent yn cymryd dewis helaeth o ysglyfaeth, gan gynnwys gwiwerod llwyd, ond yn bennaf maent yn cymryd rhywogaethau adar fel brain tyddyn ac ysguthanod. |
Cyswllt
Darroch Lyon, CC Cymru
Ffôn: 0845 604 0845
E-bost: darroch.lyon@forestry.gsi.gov.uk

