Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Cynllunwyr Rheoli

Mae pob cymorth grant o dan gynllun Coetiroedd Gwell i Gymru wedi ei seilio ar waith y cytunwyd arno mewn cynllun rheoli a baratowyd gan gynlluniwr rheolaeth ar ran perchennog coetir.

Mae Cynllunwyr rheolaeth yn gyfrifol am eich cynghori ynglŷn â gofynion a manteision cynllun CGG a chysylltu’r rhain â’ch amcanion o ran y coetir.  Maent hefyd yn cyflwyno cais CGG ar eich rhan gan ddefnyddio ein system grantiau a thrwyddedau ar-lein.  Mae paratoi cynllun rheoli yn galw am sgiliau arbenigol a phrofiad o goedwigaeth a rheoli coetiroedd.  Mae cynllunwyr rheolaeth sy’n meddu’r sgiliau hyn i’w gweld ar ein rhestr o gynllunwyr rheolaeth cymeradwy.    Mae’n rhaid i’r holl gynllunwyr rheolaeth lynu at ein Cod Ymarfer.

Mae’r grant paratoi cynllun rheoli yn cyfrannu tuag at y gost o gyflogi cynlluniwr rheolaeth a gall hefyd gyfrannu tuag at gostau petai angen gwasanaeth  aseswr arbenigol. Arbenigwyr sy’n gallu cynnal y math arbennig o waith asesu a fo’n angenrheidiol, yw aseswyr arbenigol, er enghraifft, asesiad o ecoleg coetir. Bydd y cynlluniwr rheolaeth a’r CCC yn penderfynu gyda’i gilydd p’un a fydd angen penodi aseswyr arbenigol yn ystod y paratoadau ar gyfer y cynllun rheoli.  Fel yn achos cynllunwyr rheolaeth, mae’n rhaid i aseswyr arbenigol gael eu cymeradwyo gennym ni a glynu wrth ein Cod Ymarfer.  Nid oes rhaid i chi wneud cais am y grant paratoi cynllun rheoli eich hunan; bydd y cynlluniwr rheolaeth yn gwneud hyn yn rhan o’r cais CGG ar eich rhan. 

Os ydych yn dymuno gwneud cais CGG bydd angen i chi benodi cynlluniwr rheolaeth o blith y rhai ar ein rhestr o rai cymeradwy

Sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen
Mae’n rhaid i gynllunwyr rheolaeth allu dangos amrywiaeth eang o sgiliau gan gynnwys y gallu i:

  • Adnabod y mathau allweddol o goed, eu cymwysterau a’u gofynion coedwrol.
  • Mapio a rhoi coetir mewn adrannau, a chynllunio, costio a rheoli’r prif fathau o weithrediadau coedwigaeth. 
  • Deall marchnata coedwigaeth. 
  • Adnabod cynefin, rhywogaeth planhigion ac anifeiliaid sy’n gysylltiedig â choetiroedd ac i fod yn ymwybodol o reoliadau a Chanllawiau UKFS a Choedwigaeth.
  • Cydweithio â’n methodoleg ar gyfer asesu coetir.
  • Gweithio gyda systemau TG er mwyn creu, cyflwyno a rheoli pob agwedd ar baratoi cynllun rheoli ar-lein.
  • Cyfathrebu ac ysgrifennu’n effeithiol.
  • Deall polisi coedwigaeth Cymru a’r berthynas rhyngddo â chymorth grant CGG.
  • Deall y gyfraith a’r rheoliadau sy’n gysylltiedig â choed, yn enwedig trwyddedau cwympo coed a Rheoliadau Asesu Effaith Amgylchedol.

 

 


 

Tudalennau cysylltiedig