Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Grantiau a Thrwyddedau ar-lein (G a Th ar-lein)

Mae GLOS, sef Grantiau a Thrwyddedau Ar-lein, yn system newydd sy'n caniatau cynllunwyr rheolaeth a swyddogion Creu Coetir Glastir wneud cais ar ran tirfeddianwyr am grantiau  a thrwyddedau cwympo, ac yn cantiatau perchnogion i reoli eu cytundeb cymeradwy ar-lein. 

Tirfeddianwyr
Unwaith mae gennych gynllun rheoli gallwch ddefnyddio'r ddolen Grantiau a Th Ar-lein sydd isod.  Cliciwch ar y dewis cofrestru.  Ar ôl i chi gwblhau'r broses gofestru byddwch yn derbyn neges e-bost yn cadarnhau eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair.  Mae angen y rhain er mwyn logio mewn i'r system.  Er mwyn rhoi'r cyfrif ar waith yn llawn bydd angen i chi anfon neges e-bost at y tîm gwasanaethau technegol bww.ts@forestry.gsi.gov.uk a'i hysbysu eich bod wedi sefydlu eich hun fel defnyddiwr newydd.  Yn dilyn hyn, bydd y tîm yn eich cysylltu fel perchennog, at eich cais eich hun a byddwch yn gallu gweld manylion y cynllun yn llawn, rhedeg adroddiadau a gwneud caisam y grant ar-lein.  Os oes gennych unrhyw anawsterau cysylltwch â'r tîm gwasanaethau technegol.

Cynllunwyr Rheoli a Swyddogion Creu Coetir Glastir
Cliciwch ar yddolen Grantiau a Thrwyddedau Ar-lein isod er mwyn cofrestru a  logio mewn i'r gwasanaeth i greu a rheoli ceisisadu CGG ar-lein.

Ymgyngoreion
Cliciwch ar ddolen G a Th ar-lein isod er mwyn cofrestru a logio mewn i’r gwasanaeth i ychwanegu eich sylwadau ynghylch ceisiadau. 

Os ydych am wneud rhywfaint o ymchwil am y tir yr hoffech ei gynnwys yn y cais am grant gallwch ddefnyddio ein harf Chwiliad Gwybodaeth Tir.   Mae’n hawdd defnyddio’r arf map ar lein yn awr i ganfod y nodweddion sydd mewn ardal ddynodedig. 


Ewch i Wasanaeth ar-lein G a Th >>

Beth sydd o ddiddordeb

Gwasanaethau Technegol CGG:
Manylion cysylltu:
Ffôn:0300 068 0300
e-bost:
Bww.ts@
forestry.gsi.gov.uk

Cyfeiriad Post:
Comisiwn Coedwigaeth
Clawdd Newydd
Rhuthun
LL15 2NL

Tudalennau cysylltiedig

Safleoedd defnyddiol