Mae polisi Comisiwn Coedwigaeth Cymru am werthu eiddo sydd dros ben yn canolbwyntio ar dir arall ac adeiladau ac weithiau, ardaloedd bychan o goetir, lle mae’n anodd cyflwyno ein hamcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol naill ai rŵan neu yn y dyfodol.
Defnyddir yr incwm a geir o’r gwerthiannau i gynnal buddion cyhoeddus ar rannau eraill o goetiroedd y Llywodraeth Cenedlaethol. Bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru hefyd sicrhau y diogelir mynediad gan y cyhoedd trwy osod cymal yng ngweithredoedd y tir i ganiatáu mynediad ar droed (proses a elwir yn ‘diofryd’) o dan ddarpariaethau Adran 16 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
Mae rhagor o wybodaeth ar ddiofryd yng Nghymru ar gael wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru (e-bost: openaccess@ccw.gov.uk) ynghyd â’r llyfrynnau defnyddiol canlynol:
- Rheoli Mynediad yng Nghefn Gwlad. Arweiniad ar gyfer Ffermwyr a Thirfeddianwyr.
- Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 – Sut i ddefnyddio’r cyfyngiadau.
Yn ogystal mae CC Cymru yn rhoi cefnogaeth ar gyfer creu a rheoli coetiroedd trwy gymorth grant. -gwelwch Grantiau a Thrwyddedau yng Nghymru.

