Yr wythnos diwethaf ymwelodd John Griffiths, Gweinidog dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, â ffatri goed deuluol sy’n un o’r mwyaf llwyddiannus yng ngogledd Cymru.
Dechreuodd Clifford Jones Timber brosesu coed ym 1989. Heddiw mae’n cyflogi mwy na chant o bobl ar ei ddwy safle yn Rhuthun ac yn Gretna, yr Alban.
Mae’r cwmni’n un o gynhyrchwyr pennaf y DU o goed crwn wedi’u trin ac mae ei drosiant blynyddol yn fwy na £7 miliwn.
Mae hyd yn oed yn defnyddio coed o goetiroedd Llywodraeth Cymru a ffynonellau eraill i wresogi’i ffatrïoedd yn lle tanwydd ffosil, gan leihau’i allyriadau CO2.
Derbyniodd grant Cynllun Busnes Ynni o Goed gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru yn 2008 i’w helpu i ddatblygu ei waith cynhyrchu peledi, sy’n gallu troi hyd at 30,000 tunnell o goed yn beledi a briquettes pob blwyddyn i wresogi cartrefi, ysgolion a busnesau.
Yn ogystal â chreu ynni glân, mae coed o’r ffatri yn cael eu defnyddio mewn ffensys ar ffermydd ledled Cymru a thu hwnt, yn ogystal ag yn y diwydiant adeiladu.
Ar ôl taith o gwmpas y ffatri, meddai’r Gweinidog, “Mae’r hyn rwyf wedi’i weld yma heddiw’n enghraifft ragorol o sut y gellir defnyddio’r cyfan o goed a’u gweddillion. Mae’n dangos cymaint y gellir ei wneud â choed, a’r cyfan yn dod o adnodd adnewyddol."
Dywedodd y Gweinidog fod cyfraniad y cwmni i’r economi a’r adran ynni adnewyddol yng Nghymru’n ‘eithriadol o werthfawr”.
“Yr un mor bwysig, mae’i gynnyrch a’i gynlluniau ar gyfer datblygu yn y dyfodol yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o Gymru gynaliadwy ac o sector coedwigaeth gynaliadwy.”
Gwaith Coed Clifford Jones oedd y cyntaf ar dir mawr Prydain i ddefnyddio coed sy’n dod yn uniongyrchol o goedwigoedd cynaliadwy yn y DU.
Meddai Alan Jones, cadeirydd a mab sefydlydd y cwmni, “Mae’n hymrwymiad a’n buddsoddiad, ynghyd â chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru, wedi’n galluogi i fuddsoddi mewn ffurfiau cynaliadwy newydd a chyffrous o ynni.
“Rydym yn falch o fod yn helpu Llywodraeth Cymru i gyfarfod â’i dargedau lleihau carbon a helpu i sicrhau tanwydd adnewyddol i Gymru yn y dyfodol.”
Cyswllt Swyddfa'r Wasg: Clive Davies ar 0300 068 0061, symudol 07788 190922.