Mae corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd drosodd y swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Bydd ychydig o wasanaethau ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael eu darparu ar y wefan hon am gyfnod cyfyngedig.


Nod tudalen & Rhannu
8 MAI 2012 DATGANIAD NEWYDDION: 15444

This page is now over a year old and information may not be up-to-date. Please go back to http://www.forestry.gov.uk/news for more accurate information

Glanhad i Geunant

Mae darparwyr gweithgareddau awyr agored sy’n fwy cyfarwydd ag arwain gweithgareddau anturus megis dringo creigiau a cherdded ceunentydd wedi wynebu her wahanol iawn - glanhau mynydd bychan o ysbwriel o ardal amgylcheddol sensitif.

Cliriodd Grŵp Darparwyr Gweithgareddau Awyr Agored De Cymru (SWOAPG), gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru, 35 o fagiau du o ysbwriel, teiars a choed wedi’u tipio’n anghyfreithlon ar Graig y Dinas, ger Pontneddfechan.

Mae’r ardal, ym mlaen cwm Nedd, yn boblogaidd gyda rhai sy’n chwilio am antur ac sy’n cael eu denu gan y ddaeareg a’r cymoedd coediog, cul.

Ond mae’r safle hefyd yn amgylcheddol sensitif iawn ac mae aelodau SWOAPG wedi llofnodi cytundeb gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru, sy’n rheoli’r tir ar ran Llywodraeth Cymru, i sicrhau fod yr ardal yn cael ei defnyddio mewn modd cynaliadwy.

Roedd glanhau’r maes parcio a’r ardal gyfagos yn rhan o ddefnyddio’r safle’n gyfrifol; mae’n rhan o Ardal Gadwraeth Arbennig, ac yn cael ei chydnabod am ei choetiroedd derw ac onnen.

Mae hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei choetiroedd a’i diddordeb daearegol.

Meddai Paul Dann, Rheolwr Ardal Comisiwn Coedwigaeth Cymru, “Roeddwn i’n synnu gymaint o ysbwriel oedd o’r golwg yng Nghraig y Dinas. Ond roeddwn wrth fy modd yn cael help y darparwyr gweithgareddau i godi a chlirio’r ysbwriel cyn tymor prysur yr haf."

Yn ôl Paul, y pethau oedd fwyaf tebyg o gael eu gadael oedd sanau a trainers - mae’n debyg bod llawer o ymwelwyr yn gadael y safle gyda thraed gwlyb!

Meddai Jeff Calligan, swyddog Cydlynu Mynediad Lleol SWOAPG, “Mae’r holl ddarparwyr gweithgareddau awyr agored wedi ymrwymo i ddefnyddio’r safle yn amgylcheddol gynaliadwy.

"Un ffordd y gallwn ddangos hynny yw drwy helpu i gadw’r safle yn daclus a heb ysbwriel. Mae glanhau’r safle nid yn unig yn gwella’r amodau nawr, ond mae’n gosod safon am y tymor i ddod a, gobeithio, yn annog defnydd mwy cyfrifol yn y dyfodol.”

Llun: Aelodau o’r grŵp codi ysbwriel gyda pheth o’r ysbwriel a gafodd ei gasglu o Graig y Dinas.

NODIAU I OLYGYDDION

Mae cyfanswm o 14.3 y cant o Gymru o dan goetir. O hyn, Llywodraeth Cymru piau 38% (126,000 hectar / 311,000 acer).

Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw adran coedwigaeth Llywodraeth Cymru ac mae’n rheoli’r coetiroedd hyn ar ei rhan. 

Cafodd y Côd Ymddygiad ar gyfer cerdded ceunentydd, y mae SWOAPG yn ei ddilyn, ei lunio mewn partneriaeth â Chomisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i sicrhau fod gweithgareddau cyffrous yn gallu dal i gael eu cynnal yng Nghraig y Dinas heb niweidio nodweddion arbennig yr ardal anhygoel hon.

Am ragor o wybodaeth ar Graig y Dinas, cysylltwch â Paul Dann ar 0300 068 0278, e-bost paul.dann@forestry.gsi.gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth ar goetiroedd yng Nghymru ar gael ar www.forestry.gov.uk/wales

Ewch i News at FC Wales i gael newyddion, lluniau manylion cyswllt swyddfa’r wasg a dolenni i astudiaethau achos.

Cyswllt Swyddfa'r Wasg: Clive Davies ar 0300 068 0061, symudol 07788 190922, e-bost clive.davies@forestry.gsi.gov.uk


e-mail: paul.dann@forestry.gsi.gov.uk