Mae gwyddonwyr coedwigaeth yng Nghymru yn dechrau llunio siarter o egwyddorion newid yn yr hinsawdd, a allai weddnewid coetiroedd ledled Ewrop.
Mae arbenigwyr o FUTUREforest, sef prosiect Ewropeaidd INTERREG IVC sy’n edrych ar sut y gall coedwigoedd addasu i’r newid yn yr hinsawdd a darparu cyfleoedd lliniaru, wedi treulio’r 12 mis diwethaf yn archwilio’r holl syniadau diweddaraf am ddiogelu coedwigoedd rhag yr hinsawdd.
Yn awr, mae’r tīm o Gymru, trwy gydweithio ā’u partneriaid o Gatalonia yn y de i Latfia yn y gogledd, yn tynnu’r holl arfer gorau at ei gilydd mewn darn o waith a ddefnyddir i helpu llywio’r rheiny sy’n llunio polisļau ar lefel Ewropeaidd a rhanbarthol.
Ac, mewn cyfarfod yn rhanbarth Auvergne yn Ffrainc y mis hwn, dechreuodd cynrychiolwyr Comisiwn Coedwigaeth Cymru ar y dasg fanwl o fynd trwy’r hyn a ddysgwyd ac y gellir ei roi ar waith yng Nghymru.
"Mae gwaith cydweithredol fel FUTUREforest yn helpu lleihau’r amser a’r gost o ddod o hyd i atebion hanfodol i’n problemau ar y cyd," dywedodd rheolwr y prosiect Ff, Dr Helen Cariss.
"Ni yng Nghymru yw un o ychydig wledydd yn unig sydd wedi cynnwys cynaliadwyedd yn ein deddfwriaeth – ac mae gweithio tuag at sector coedwigaeth cynaliadwy yn hynod bwysig i’n dyfodol.
"Er mwyn parhau i gynllunio ar gyfer y dyfodol, rhaid i ni sicrhau bod ein coedwigoedd yn y sefyllfa orau i ffynnu, er gwaethaf y newidiadau disgwyliedig i’r hinsawdd," dywedodd.
"Trwy weithio gyda’n partneriaid yn Ewrop, gallwn gyflawni mwy gyda’n gilydd na phe buasem yn ceisio mynd i’r afael ā phroblemau cyffredinol ar ein pen ein hunain – ni all yr un ohonom fforddio gwastraffu amser nac adnoddau prin."
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae arbenigwyr mewn newid yn yr hinsawdd wedi cyfarfod ym mhob un o’r rhanbarthau i edrych ar rai o’r problemau mawr sy’n wynebu coedwigaeth, a’u hamlygu. Erbyn hyn, maent yn tynnu atebion at ei gilydd a fydd yn helpu’r rheiny yn y Llywodraeth sy’n llunio polisļau i gynllunio yn y dyfodol.
"Credwn, trwy gasglu’r holl wybodaeth a mentrau ynghyd o bob un o’r saith rhanbarth, y gallwn ddod ā dogfen awdurdodol at ei gilydd a all ddylanwadu ar y rheiny sy’n llunio polisļau wrth iddynt wneud penderfyniadau am bolisi coedwigaeth." dywedodd Dr Cariss.
Mae’r tīm eisoes wedi gweld fel y credir mai coetiroedd o oedrannau a rhywogaethau cymysg yw’r ffordd ymlaen, o Auvergne yn ne Ffrainc i Brandenburg yn Yr Almaen.
Y wybodaeth a gasglwyd am reoli dŵr, erydiad pridd, rheoli carbon, bioamrywiaeth, cynhyrchu coed a risgiau naturiol yw ffocws ail gam y rhaglen ‘Datblygu gyda’n gilydd’.
"Credwn y gellir defnyddio’r holl wybodaeth werthfawr hon a rannwyd i ddod o hyd i ffyrdd y gall coedwigoedd Ewrop wneud hyd yn oed mwy i helpu i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd – helpu i leihau llifogydd, dal mwy o garbon, lleihau erydiad pridd a’r posibilrwydd o gadw mwy o ddŵr yn y tir i’r gwledydd hynny sydd eisoes yn cael profiad o brinderau," dywedodd.
Y dasg yn awr yw i dimau o arbenigwyr ym mhob ardal gydweithio i ddatblygu dull mwy cyfannol o reoli coedwigoedd, gweithio ar ganllawiau arfer da y gellir eu trosglwyddo, argymhellion polisi, canllawiau strategol a rhaglenni coedwigoedd.
Wedi iddo gael ei gwblhau, bydd Fframwaith FUTUREforest yn symud i drydydd cam y rhaglen, sef y cam olaf – gwerthu’r profiadau, arfer da a’r syniadau polisi i’r rheiny sy’n llunio polisļau, gwleidyddion a rhanddeiliaid allweddol yn Ewrop.
NODIADAU I OLYGYDDION
Mae FUTUREforest yn rhaglen tair blynedd INTERREG IVC a ariennir gan yr UE a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ei bwriad yw nodi’r bygythiadau, y gwendidau a’r cryfderau yng nghoedwigoedd Ewrop wrth iddynt wynebu newid yn yr hinsawdd; gan ddatblygu technegau rheoli gorau i lywio’r rheiny sy’n llunio polisļau a rhanddeiliaid.
Mae hefyd yn anelu at wella ac addasu polisļau ac arferion rheoli coedwigoedd lleol a rhanbarthol, gan ganolbwyntio ar gydbwysedd dŵr, pridd, bioamrywiaeth, coed a chynhyrchion coedwig nad ydynt yn goed, ansawdd awyr gan gynnwys dal a storio carbon, a risgiau naturiol fel tanau, plāu a phathogenau.
Yr amcan yw gwella effeithiolrwydd polisļau datblygu rhanbarthol a chyfrannu at foderneiddio economaidd a gwella natur gystadleuol Ewrop trwy gyfnewid, rhannu a throsglwyddo profiadau polisi, gwybodaeth ac arfer da mewn rheoli coetiroedd.
Bydd y prosiect yn darparu’r wybodaeth, offer a’r dulliau sydd eu hangen ar y rheiny sy’n gwneud penderfyniadau gwleidyddol a rhanddeiliaid eraill mewn rhanbarthau yn Ewrop i alluogi polisļau coedwigaeth/datblygu rhanbarthol ac arferion rheoli coedwigoedd effeithiol.
Mae hefyd yn bwriadu nodi’r cyfleoedd sy’n deillio o newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys cynhyrchu mwy o fiomas – ac felly dal a storio carbon – o ganlyniad i newidiadau yn y patrwm glawiad a thymereddau uwch.
Mae’r partneriaid yn cynnwys Auvergne, Ffrainc (bioamrywiaeth); Brandenburg, Yr Almaen (trosglwyddo gwybodaeth); Bwlgaria (amddiffyn pridd); Catalonia (risgiau naturiol); Latfia (cynhyrchu coed); Slofacia (dal a storio carbon).
Cyhoeddwyd Coetiroedd i Gymru, sef strategaeth ddiwygiedig Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer coetiroedd a choed, ym mis Mawrth 2009.
Fe’i cyhoeddwyd yn 2001 yn wreiddiol ac mae’n gosod cynllun 50 mlynedd ar gyfer coetiroedd a choed a sut y gall pobl Cymru gael budd ohonynt. Mae’r strategaeth yn edrych ar y rhan y maent yn ei chwarae mewn cyflawni buddion cymdeithasol ac economaidd, a’r cyfraniad y gallant ei wneud tuag at fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Comisiwn Coedwigaeth Cymru sy’n gyfrifol am FUTUREforest yng Nghymru. Hon yw adran y llywodraeth sy’n gyfrifol am bolisi coedwigaeth ac sy’n rheoli’r 320,000 erw (130,000 ha) o goedwigoedd cyhoeddus y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn berchen arnynt. Mae mwy o wybodaeth am goetiroedd Cymru ar gael yn www.forestry.gov.uk/cymru
Cysylltwch ā: Helen Cariss, FUTUREforest, Rheolwr Prosiect Cymru – Ffōn: 0300 068 0087 neu Guy Pargeter, Taliesin Communications – Ffōn: 01970 832375