Heddiw, [Mercher 3ydd Mawrth] mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi cynllun gweithredu Coetiroedd i Gymru, sy’n disgrifio beth y mae angen ei wneud dros y pum mlynedd nesaf er mwyn cymryd rhai o’r camau tuag at gyflawni canlyniadau’r strategaeth 50 mlynedd ar gyfer coed a choetiroedd. Coetiroedd i Gymru yn nodi’r cyfraniad sylweddol y gall coetiroedd a choed ei wneud i sicrhau manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ac i fynd i’r afael ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.
Ar ffermydd y mae llawer o’r coetiroedd yng Nghymru nad ydynt yn cael eu rheoli, ond trwy ddechrau eu rheoli, bydd y perchnogion yn elwa ar gael mwy o goed i’w ddefnyddio ar y fferm, gan gynnwys coed i’w ddefnyddio fel tanwydd.
Yn ogystal, bydd cyflwr amgylcheddol y coetiroedd hyn yn gwella, gan arwain at fwy o fanteision trwy’r adnoddau eraill sy’n cael eu cynnig ganddynt, fel rheoli dŵr.
Datblygwyd y cynllun gweithredu gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ar ran Llywodraeth y Cynulliad.
Hefyd yn y cynllun, ceir camau gweithredu a fydd yn annog defnyddio coed i helpu i reoli llifogydd, ac yn cyflwyno mwy o goed i amgylcheddau trefol lle y byddant yn creu cysgod ac yn gwella draenio yn ogystal â gwneud trefi a dinasoedd yn lleoedd mwy deniadol.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys camau i gynyddu’r galw am bren a chynnyrch eraill y coetiroedd. Bydd mwy o alw am bren yn cynnal ac yn ehangu’r diwydiant coedwigoedd a’r sector busnes a’i gyfraniad i economi Cymru.
Yn ogystal, mae’n rhoi sylw i’r ffordd y gall coed gael eu defnyddio yn lle deunyddiau fel dur a choncrid y mae angen mwy o ynni i’w cynhyrchu. Bydd hyn yn helpu i leihau ôl troed carbon y wlad gan y gallai coed storio carbon am gannoedd o flynyddoedd neu fwy.
Meddai Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig: "Mae’r strategaeth uchelgeisiol hon yn cydnabod y gall coetiroedd a choed sicrhau mwy o fanteision os bydd camau mentrus yn cael eu cymryd.
"Mae coetiroedd a choed yn darparu’r cynnyrch amlwg fel pren neu safleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden, wrth gwrs, ond maen nhw hefyd yn cynnig gwasanaethau llai amlwg fel ffyrdd o’n helpu i ymdopi â’r newid yn yr hinsawdd ac i ddiogelu adnoddau’r pridd a dŵr.
"Beth sy’n eu gwneud mor werthfawr yw bod modd iddyn nhw ddarparu nifer fawr o’r gwasanaethau hyn ar yr un pryd.
"Drwy fynd ati i weithredu’r cynllun hwn, ein nod yw cynyddu gorchudd coetir Cymru a chynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau’r coed yn y coetiroedd hyn, gan eu gwneud yn fwy gwydn i’w helpu i wrthsefyll effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.
"Mae gan goetiroedd lleol gymaint i’w gynnig – cyfleoedd ar gyfer mwynhau gweithgareddau hamdden, gwella iechyd a lles, ar gyfer dysgu a datblygu sgiliau, cefnogi busnesau bach a datblygu cymunedau lleol."
Bydd amrywiaeth eang o gyrff o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn helpu i roi’r camau sydd yn y cynllun gweithredu ar waith.
NODIADAU I OLYGYDDION
Gellir gweld y Cynllun Gweithredu yn y lle cyntaf ar-lein yn: www.forestry.gov.uk/forestry/INFD-82RN8E (Saesneg) a www.forestry.gov.uk/forestry/INFD-82xey9 (Cymraeg) ac mae fformatau eraill (Braille, llythrennau bras, ag ati) ar gael drwy gysylltu â Jane Holloway ar jane.holloway@forestry.gsi.gov.uk neu 0300 068 0300.
Strategaeth 50 mlynedd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer coetiroedd a choed yw Coetiroedd i Gymru. Wedi 'i gyhoeddi gyntaf yn 2001, adolygwyd Coetiroedd i Gymru a'i ail lansio ym mis Mawrth 2009 yn dilyn ymgynghori helaeth â'r cyhoedd. Mae'r strategaeth yn nodi gweledigaeth a chyfres o 20 canlyniad sy'n dangos sut y gall y buddion yma cael eu mwyhau. Gellir ei gweld yn: http://www.forestry.gov.uk/forestry/INFD-7GDE7A
Ers ei gyhoeddi yn 2001 mae gwaith sylweddol wedi ei wneud i gyflawni nodau'r strategaeth gyntaf, ac fe gyhoeddwyd adroddiad cynnydd 5 mlynedd yn 2006, a gellir ei weld drwy ddilyn y ddolen isod: http://www.forestry.gov.uk/pdf/Welshversion1-160copy.pdf/$FILE/Welshversion1-160copy.pdf
Mae'r cynllun gweithredu hwn yn gosod ger bron gweithgareddau allweddol y bydd angen ymgymryd â hwy i symud ymlaen a chyflawni 20 canlyniad y strategaeth. Mae'n egluro beth y bydd yn rhaid ei wneud a phwy sy'n gyfrifol am arwain pob gweithred.
Gan adeiladu ar y cynnydd a wnaed ers 2001a chan gynnwys polisïau a rhaglenni ychwanegol, megis Cymru'n Un a'r Strategaeth Amgylcheddol, mae'r cynllun gweithredu hwn yn edrych ymlaen dros y pum mlynedd nesaf.
Datblygwyd Cynllun Gweithredu Coetiroedd i Gymru gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Canlyniadau Strategaeth Coetiroedd i Gymru
Fydd camau gweithredu yn y Cynllun yma'n gymorth at gyflawni'r 20 canlyniad Coetiroedd i Gymru sydd wedi'u grwpio o dan y pum thema strategol; Coetiroedd a Choed Cymru; Ymateb i Newid Hinsawdd; Coetiroedd i Bobl; Sector coedwigoedd cystadleuol ac integredig; Ansawdd yr Amgylchedd.
Y canlyniadau yw:
Coetiroedd a choed Cymru
1. Mwy o goetiroedd a choed i’w rheoli’n gynaliadwy
2. Sicrhau bod ecosystemau coetiroedd yn iach a gwydn
3. Coetiroedd i’w haddasu fwy i gyflawni ystod o fuddiannau
4. Gorchudd coetiroedd Cymru i gynyddu
5. Rheolaeth coetiroedd a choed i fod yn fwy cysylltiedig â defnyddiau eraill ar dir
6. Coetiroedd a choed trefol i gyflawni ystod lawn o fuddiannau
Ymateb i newid hinsawdd
7. Coetiroedd Cymru i gyfrannu at leihau ôl troed carbon Cymru
Coetiroedd i Bobl
8. Mwy o gymunedau i elwa ar goetiroedd a choed
9. Mwy o bobl i fwynhau buddiannau dysgu gydol oes coetiroedd a’u cynhyrchion
10. Mwy o bobl yn byw bywydau iachach o ganlyniad i’w defnydd a’u mwynhad o goetiroedd
11. Mwy o bobl yn elwa ar fentrau sy'n gysylltiedig â choedwigoedd
Sector coedwigoedd cystadleuol ac integredig
12. Mwy o goed wedi tyfu yng Nghymru i’w defnyddio yng Nghymru
13. Y sector coedwigoedd i’w integreiddio’n well a bod yn fwy cystadleuol.
Cefnogi economi Cymru
14. Cynyddu’r defnydd ar bren fel adnodd adnewyddadwy allweddol
15. Gweithlu ffyniannus, medrus yn y sector coedwigaeth
Ansawdd yr amgylchedd
16. Rheoli coetir i gyflawni safonau uchel o stiwardiaeth amgylcheddol
17. Coetiroedd a choed o werth cadwraeth arbennig dan reolaeth ffafriol
18. Cefnogi bioamrywiaeth coetiroedd a chael coetiroedd brodorol dan reolaeth ffafriol
19. Coetiroedd a choed i wneud cyfraniad cadarnhaol i gymeriad tirwedd arbennig Cymru ac i safleoedd o bwysigrwydd treftadaeth a diwylliant
20. Coetiroedd a choed newydd a phresennol i gyfrannu at reoli dŵr a phridd.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am goetiroedd Cymru yn www.forestry.gov.uk/wales.
Cysylltiad i’r Wasg: Mary Galliers, mary.galliers@forestry.gsi.gov.uk neu 0300 068 0300.
Os am gynnig am gyfweliad gyda'r Gweinidog Materion Gwledig, cysylltwch â Martyn Williams yn Swyddfa'r Wasg Llywodraeth Cynulliad Cymru ar 029 2089 8169 neu martyn.williams@wales.gsi.gov.uk