Mae corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd drosodd y swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Bydd ychydig o wasanaethau ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael eu darparu ar y wefan hon am gyfnod cyfyngedig.


Nod tudalen & Rhannu
13 GORFENNAF 2012 DATGANIAD NEWYDDION: 15552

Plant yn archwilio byd cudd coetiroedd

Aeth plant o bob rhan o Gymru i fyd hud ein coetiroedd mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau i ddathlu Wythnos Genedlaethol y Pryfed.

Cymerodd disgyblion o ysgolion cynradd ac uwchradd rhan mewn helfeydd pryfed a saffaris chwilod a oedd yn codi’r caead ar fywyd toreithiog ein coetiroedd nad yw ymwelwyr yn ei weld yn aml.

Roedden nhw hefyd yn cymryd rhan mewn chwarae rôl fel pryfed enfawr, yn chwarae cuddio ac yn adeiladu ‘gwestai’ i bryfed y goedwig, gyda chymorth aelodau tȋm Coetiroedd ar gyfer Dysgu Comisiwn Coedwigaeth Cymru.

Yn ôl Shenna O’Leary, Swyddog Addysg,  roedd Wythnos y Pryfed yn esgus perffaith i annog plant a phobl ifanc i gael profiad ymarferol o’r mân fywyd gwyllt sy’n byw yng nghoetiroedd Cymru.

"Roedd yn gyfle gwych i’r plant ddysgu am y bywyd cyffrous sydd o dan eu traed," meddai Sheena.

“Mae’r miloedd o blanhigion a choed mewn coetiroedd yn gartref perffaith i gymaint o rywogaethau o bryfed. Mae pryfed yn ffynnu ar bob haenen o’r goedwig, o ysbwriel y dail ar y llawr, yn nhu fewn bonion coed, ac yn uchel yn y canopi talaf.

“Ac mae yno ddigonedd o fwyd, gyda digonedd o le i guddio rhag creaduriaid eraill a’u bryd ar eu bwyta!”

Roedd sesiynau eraill yn cynnwys edrych ar ryng ddibyniaeth y mân greaduriaid yn escosystem y coetir a sut mae bioamrywiaeth yn newid y tirlun mewn coetir.

Cafodd y plant ffeithiau ffoli i’w helpu i ddeall y gwahaniaeth rhwng pryfed a’r mân greaduriaid eraill, megis arachnidau, a chyfle hefyd i ymchwilio i fywyd pyllau yn ogystal â’u cefndryd ar y tir. 

Ychwanegodd Sheena, “Roedd yr holl ddigwyddiadau’n cysylltu â’r cwricwlwm addysg, yn cynnwys llawer o feysydd dysgu gan gynnwys mathemateg a gwyddoniaeth ond gan gynnig llawer iawn o hwyl, yn bendant doedd e ddim i weld fel gwaith ysgol.”

Llun: Plant o Ysgol Gynradd Cradoc yn Aberhonddu, Powys yn ymchwilio pwll yng Nghanolfan Comisiwn Coedwigaeth Cymru yng Ngarwnant ger Merthyr Tudful.

NODIAU I OLYGYDDION

Mae cyfanswm o 14.3% y cant o Gymru o dan goetir. O hyn, Llywodraeth Cymru piau 38% (126,000 hectar / 311,000 acer).

Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw adran coedwigaeth Llywodraeth Cymru ac mae’n rheoli’r coetiroedd hyn ar ei rhan.

Mae’r tîm Coetiroedd ar gyfer Dysgu yn cynnig profiadau dysgu yn seiliedig ar goetiroedd ledled Cymru, yn cefnogi datblygu a darparu Ysgol Goedwig ac yn hyrwyddo'r Fenter Addysg Goedwig ar ran ei bartneriaid.

Mae rhagor o wybodaeth ar goetiroedd yng Nghymru ar gael ar www.forestry.gov.uk/wales

Cyswllt Swyddfa'r Wasg: Clive Davies ar 0300 068 0061, symudol 07788 190922, e-bost clive.davies@forestry.gsi.gov.uk


e-mail: sheena.o'leary@forestry.gsi.gov.uk