Nod tudalen & Rhannu
13 GORFENNAF 2011 DATGANIAD NEWYDDION: 14772

Y frwydr yn erbyn clefyd coed angheuol yn cyrraedd y cam argyfyngus nesaf

Y llynedd, darganfuwyd bod 876 hectar o goed larwydd Siapan wedi cael eu heintio â chlefyd ramorum yng Nghymru. 

Yn ystod y gaeaf, peidiodd Comisiwn Coedwigaeth Cymru â chynnal arolygon o goetiroedd gan ei bod hi’n anodd gweld symptomau mewn coed heintiedig ar ôl i goed larwydd gwympo’u nodwyddau.

Ar ôl i’r coed adennill eu nodwyddau yn hwyr yn y gwanwyn, mae arolygwyr Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi bod wrthi’n gwirio coetiroedd i ddarganfod pa mor bell y mae clefyd ramorum wedi lledaenu.

Mae canfyddiadau cychwynnol o’r arolygon hyn yn dangos bod y clefyd coed angheuol hwn wedi heintio 227 hectar arall o goed larwydd yng Nghymru.

Dywedodd Owen Thurgate, Rheolwr Prosiect Phytophthora yng Nghomisiwn Coedwigaeth Cymru, “Yr achos gwaethaf fyddai darganfod yr un nifer, neu hyn yn oed yn fwy, o goed wedi’u heintio â chlefyd ramorum eleni a’r llynedd.

“Cyngor gwyddonwyr Forest Research i atal lledaenu’r clefyd yw cwympo coed heintiedig i ladd y planhigyn byw y mae’r pathogen Phytophthora ramorum yn dibynnu arno.

“Er ei bod hi’n achos pryder y byddwn yn gorfod cwympo nifer fawr o goed heintiedig eleni eto, ymddengys fod ein penderfyniad i gwympo coed heintiedig yn gyflym y llynedd wedi chwarae rôl allweddol o ran rheoli’r achos mawr hwn.”

Mae’r rhan fwyaf o’r coed sydd newydd gael diagnosis mewn coetiroedd sy’n agos at ardaloedd oedd wedi cael eu heintio â chlefyd ramorum y llynedd yn Nyffryn Afan, ger Port Talbot.

Mae clefyd ramorum hefyd wedi cael ei ddarganfod mewn nifer fach o goed larwydd ym Mwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth, lle cwympwyd 60 o goed heintiedig yn 2010 ac, am y tro cyntaf, ger cronfa ddŵr Alwen yng ngogledd Cymru.

Yn yr hydref, mae coed larwydd Siapan heintiedig yn cynhyrchu nifer fawr iawn o sborau sy’n achosi clefyd ramorum.  Gall y clefyd effeithio’n gyflym ar nifer fawr o’r coed hyn a’u lladd o fewn blwyddyn ar ôl canfod y symptomau.

Mae tywydd hefyd yn chwarae rôl o ran lledaenu clefyd ramorum gan yr ymddengys fod y sborau’n teithio’n well yn ystod amodau llaith.

“Y llynedd, gwnaethom ddarganfod bod hydref sych wedi helpu i leihau lledaenu’r sborau sy’n achosi clefyd ramorum,” meddai Owen.

“Rydym felly’n disgwyl y bydd cynnydd y clefyd yn dibynnu ar y tywydd yr hydref hwn hefyd, felly gorau pa sychaf fydd yr amodau yn hwyrach eleni.”

Bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn parhau i gyflawni arolygon yn edrych am symptomau clefyd ramorum tan fis Hydref.

Yn y cyfamser, mae’r gwaith o gwympo coed sydd wedi cael diagnosis o glefyd ramorum hyd yn hyn eleni, wedi dechrau.

Nid yw clefyd ramorum yn niweidio’r pren, ac mae mesurau bioddiogelwch wedi cael eu rhoi ar waith i ganiatáu boncyffion o goed heintiedig i gael eu cludo i felinau llifo heb ledaenu’r pathogen i goed na phlanhigion eraill.

“Rydym yn benderfynol o leihau effeithiau clefyd ramorum ar goetiroedd a’r diwydiant coedwig, a bydd cymorth perchnogion coetiroedd i edrych am arwyddion cynnar o heintiad yn parhau i chwarae rôl allweddol yn ein strategaeth rheoli clefydau,” meddai Owen.

Nid yw’r clefyd ramorum yn niweidiol i fodau dynol nac anifeiliaid, ac mae pob coetir cyhoeddus yn parhau ar agor i ymwelwyr, ac eithrio mannau lle mae gweithredoedd cwympo’n digwydd, sydd ar gau dros dro am resymau diogelwch.

Dywedodd Owen, “Rydym yn apelio i bawb sy’n gweithio neu sy’n ymweld â choedwigoedd wedi’u heffeithio, i’n helpu i ymatal yr achos hwn trwy  ddilyn rhai rhagofalon bioddiogelwch fel na ledaenir y pathogen yn anfwriadol ar esgidiau, olwynion beic neu gerbydau, offer neu beiriannau.

“Bydd arwyddion yn esbonio’r rhagofalon syml hyn wrth fynedfeydd coedwigoedd lle mae clefyd ramorum yn bresennol.”

Dylai perchnogion neu reolwyr coetiroedd yng Nghymru sy’n drwgdybio bod haint yn eu coed, hysbysu swyddfa Grantiau a Rheoliadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru yng Nghlawdd Newydd, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2NL Ffôn: 0300 068 0300, e-bost: bww.ts@forestry.gsi.gov.uk.

Mae mwy o wybodaeth am Phytophthora ramorum ar gael ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth ar www.forestry.gov.uk/pramorum.

NODIADAU I OLYGYDDION

1.         Mae clefyd Ramorum ar goed larwydd yn cael ei achosi gan y pathogen Phytophthora ramorum (P. ramorum), sy’n gallu heintio mwy na 150 o rywogaethau o blanhigion a choed.

2.         Canfuwyd P. ramorum yn gyntaf yn y Deyrnas Unedig mewn planhigyn gwifwrnwydden mewn canolfan arddio yng ngorllewin  Sussex yn 2002. Ers hyn, mae wedi cael ei ganfod yn heintio amrywiaeth eang o blanhigion a choed ledled y DU. Tan yn ddiweddar, roedd wedi effeithio ar lwyni yn bennaf, fel rhododendron, camelia a gwifwrnwydden, ac ond wedi effeithio ar nifer cyfyngedig o goed; o’n hwyr yn 2008, mae’r haint wedi cael ei ddarganfod yn y planhigyn llus sy’n bwysig yn amgylcheddol  (Vaccinium myrtillus - sy’n cael ei adnabod yn Saesneg fel blaeberry yn yr Alban a winberry yng Nghymru).

3.         Ym mis Awst 2009, cadarnhawyd yr haint P. ramorum mewn coed larwydd Siapan yn ne-orllewin Lloegr. Dyma’r tro cyntaf yr oedd wedi cael ei ddarganfod yn heintio rhywogaethau coed conwydd sy’n bwysig yn fasnachol unrhyw le yn y byd, ac ers hyn, mae wedi cael ei gadarnhau mewn coed larwydd ym mhob un o bedair gwlad y DU, yn ogystal â Gweriniaeth Iwerddon.

4.         Mae coed yn marw’n gyflym - ymddengys fod P. ramorum yn gallu lladd coed larwydd Siapan o fewn un tymor tyfu ar ôl canfod ei bresenoldeb yn gyntaf, sydd, o’i gymharu â chlefydau coed eraill, yn gweithio’n gyflym iawn. Mewn coed larwydd Siapan, mae’n achosi blaenau blagur i wywo a’r nodwyddau i droi’n ddu a chwympo cyn amser. Gall cancrau sy’n gwaedu resin ymddangos ar y canghennau a’r boncyff uchaf.

5.         Mae coed larwydd Siapan heintiedig yn cynhyrchu niferoedd arbennig o uchel o’r sborau sy’n lledaenu’r clefyd - llawer yn uwch na’r lefel a gynhyrchwyd ar Rododendron ponticum. Mae hyn yn golygu y gall y clefyd effeithio’n gyflym ar nifer fawr o goed a llwyni. Gall y pathogen gael ei ledaenu mewn niwl, glaw ac awelon.

6.         Mae P. ramorum yn organeb ‘cwarantin’ o dan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’n rhaid hysbysu awdurdodau perthnasol (Comisiwn Coedwigaeth, Fera, Llywodraeth Cynulliad Cymru neu Lywodraeth yr Alban) ynglŷn â’i bresenoldeb ar goed neu blanhigion coetir, ac mae’n rhaid i rheiny gymryd camau statudol i’w ymatal neu ei ddifa.

7.         Mae gwyddonwyr Forest Research wedi cynghori mai’r ffordd fwyaf effeithiol o atal y clefyd rhag lledaenu yw cwympo coed a phlanhigion  heintiedig i ladd y planhigyn byw y mae’r pathogen yn dibynnu arno.

8.         Nid yw P. ramorum yn niweidio’r pren, a gall boncyff o goed heintiedig gael eu gwerthu i’r farchnad bren, yn amodol ar fesurau bioddiogelwch er mwyn sicrhau nad yw eu symud yn achosi i’r clefyd ledaenu ymhellach.

9.         Mae llarwydd yn bren gwydn, amlbwrpas sy’n goddef newidiadau rhwng amodau gwlyb a sych yn dda iawn, mae’n gwrthsefyll pydru pan gaiff ei ddefnyddio yn y ddaear, ac mae’n hawdd ei staenio, gweithio ag ef a’i orffen. Mae galw felly amdano i’w ddefnyddio yn yr awyr agored yn ogystal ag ar gyfer lloriau a byrddau sglodion.

10.        Mae tua 134,000 hectar (331,000 acer) o goetir larwydd ym Mhrydain: tua 5 y cant o gyfanswm y coetir.

11.        Nid yw P. ramorum yn niweidiol i fodau dynol nac anifeiliaid, ac mae pob coetir cyhoeddus yn aros ar agor i ymwelwyr, ac eithrio ardaloedd lle mae gwaith cwympo’n digwydd, gan eu bod ar gau dros dro am resymau diogelwch.

12.        Mae P. ramorum yn achosi’r clefyd sy’n cael ei adnabod fel "marwolaeth sydyn y deri" yn UDA, lle mae math paru gwahanol wedi lladd miliynau o goed derw a derw dwysflodeuog brodorol Gogledd America yn California ac Oregon. Fodd bynnag, mae ei enw Americanaidd cyffredin yn gamenw ym Mhrydain, lle mae profion labordai wedi dangos bod ein coed derw brodorol, sef derw mes digoes a phendyclaidd, llawer yn fwy gwydn i P. ramorum na’u cefndryd Americanaidd, ac mae llai na phum coeden dderw frodorol wedi cael eu cadarnhau â haint P. ramorum ym Mhrydain. Felly, defnyddir yr enw cyffredinol ‘clefyd ramorum’ ym Mhrydain yn lle ‘marwolaeth sydyn y deri’.

13.        Ni ddylid drysu P. ramorum â dirywiad difrifol coed derw (AOD), sy’n glefyd ar wahân sy’n effeithio ar goed derw yng nghanolbarth Lloegr, a rhannau o Gymru a de-ddwyrain Lloegr, a lle ymddengys fod rhywogaeth bacteriwm newydd ei ddarganfod yn ymglymedig.

Ymholiadau’r cyfryngau

  • P. ramorum ym Mhrydain Fawr yn gyffredinol ac ymchwil P. ramorum - Charlton Clark, 0131 314 6500
  • P. ramorum yng Nghymru - Mary Galliers, 0300 068 0300, mary.galliers@forestry.gsi.gov.uk
  •  P. ramorum yn Lloegr – Stuart Burgess, 0117 372 1073 neu Becci Turner 0117 9066030
  • P. ramorum yn yr Alban – Steve Williams neu Paul Munro, 0131 314 6508/7