Nod tudalen & Rhannu
18 TACHWEDD 2011 DATGANIAD NEWYDDION: 15085

Gweinidog yn canmol plant am roi coetir i’w cymuned

Mae John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, wedi canmol y plant a blannodd goetir cymunedol newydd ar ystad dai leol.

Diolchodd y Gweinidog i’r bobl ifanc a oedd wedi helpu i greu coetir Parc Caia yn Wrecsam pan ymwelodd â’r ardal i agor y pumed safle Plant! yng Nghymru yn swyddogol.

Prosiect o eiddo Llywodraeth Cymru yw Plant! sydd â’r nod o greu amgylchedd cynaliadwy a mynd i’r afael â newid hinsawdd drwy blannu coeden ar gyfer pob plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru.

Plannodd y Gweinidog goeden ifanc pan gyfarfu â phlant o Ysgol Gatholig y Santes Anne yn Wrecsam a oedd wedi helpu i ddatblygu’r coetir newydd drwy blannu llawer o’r coed eu hunain ym mis Mawrth.

Meddai’r Gweinidog, “Bydd plannu mwy o goed yn ein helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn ogystal â dod â manteision eraill yn awr ac yn y dyfodol.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau amgylchedd cynaliadwy. Mae annog cenedlaethau’r dyfodol i fyw bywydau llawer mwy cynaliadwy yn allweddol os ydym am gyrraedd y nod yma.

“Drwy wneud i blant a phobl ifanc deimlo eu bod yn berchen ar yr amgylchedd naturiol, a’u hannog nhw a’u teuluoedd i fwynhau’r awyr agored, gallwn adeiladu dyfodol gwell i bawb.”

Mae’r cynllun Plant! yn cael ei weithredu ar ran Llywodraeth Cymru gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, mewn partneriaeth â Choed Cadw.

Drwy blannu mwy o goed, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu creu Coedwig Genedlaethol Cymru a fydd o gymorth i liniaru newid yn yr hinsawdd gan y bydd y coed yn gweithredu fel suddfan carbon.

Wrth i’r Gweinidog fynd ar daith drwy Barc Caia, cymerodd plant ifanc hyd at bump oed ran mewn gweithgareddau wedi’u harwain gan swyddogion addysg Comisiwn Coedwigaeth Cymru a buont yn gwrando ar chwedl yr awdures Julia Donaldson am y ‘Stick Man’, cyn defnyddio defnyddiau o’r coetir i lunio eu fersiwn eu hunain o arwr y stori.

Yn y cyfamser, bu’r plant hŷn yn dilyn llwybr pos anifeiliaid, gan ddysgu am yr anifeiliaid a’r adar a fydd yn ymgartrefu maes o law yn y coetir trefol hwn sy’n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac yn cael ei reoli ganddo.

Meddai Sharon Daltrey, Prifathrawes Ysgol Gatholig y Santes Anne, “Mae’r plant wedi cael eu cyffroi gan y prosiect cymunedol yma ac wedi gwneud llawer i’w hybu, er enghraifft, drwy feddwl am enw i’r ardal a phlannu’r coed eu hunain.”

Gan weithio mewn partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus, bydd y plant yn parhau i ofalu am Barc Caia drwy godi sbwriel yn y coetir a’r cyffiniau.

Cafodd y cynllun Plant! ei lansio ym mis Rhagfyr 2007 ac mae’n cefnogi un o’r ymrwymiadau yn Coetiroedd i Gymru, strategaeth Llywodraeth Cymru i greu Coedwig Genedlaethol o goed brodorol a fydd yn gweithredu fel suddfan carbon.

Mae’r safleoedd Plant! eraill i’w cael yng Nghoed Ysgubor Wen ger Tywyn, Coed Bryn Oer, ger Tredegar, Cefn Ila, ger Brynbuga a Choedwig y Plant, Cwm Garw, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

NODIADAU I OLYGYDDION

Mae tua 14.3 y cant o dir Cymru dan goed. Mae 38% (126,000 hectar / 311,000 erw) o hyn yn eiddo i Lywodraeth Cymru.

Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw adran coedwigaeth Llywodraeth Cymru ac mae’n rheoli’r coetiroedd hyn ar ei rhan.

Cynllun o eiddo Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Choed Cadw yw’r prosiect Plant!

Cafwyd y syniad gwreiddiol ar gyfer Plant! gan Natalie Vaughan, merch ysgol o Gaerdydd. Ysgrifennodd Natalie at Sue Essex, ei Haelod Cynulliad, yn awgrymu y gallai plannu coeden ar gyfer pob plentyn a enir yng Nghymru fod yn ffordd dda o gael pobl ifanc i feddwl am eu hamgylchedd a’u cyfrifoldeb dros ei ddiogelu.

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl plannu tua 32,000 o goed newydd bob blwyddyn – digon i lenwi bron 44 o gaeau rygbi.

Mae tîm Coetiroedd ar gyfer Dysgu Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn rheoli’r prosiect Plant! ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r tîm yn darparu profiadau dysgu wedi’u seilio ar goetiroedd drwy Gymru gyfan, yn cefnogi datblygu a chyflwyno’r Ysgol Goedwig, ac yn hwyluso’r Fenter Addysg Goedwig ar ran ei bartneriaid.

Cysylltiad i’r wasg: Clive Davies ar 0300 068 0061, ffôn symudol 07788 190922, e-bost clive.davies@forestry.gsi.gov.uk.


e-mail: lajla.cash@forestry.gsi.gov.uk