Nod tudalen & Rhannu
12 MAWRTH 2010 DATGANIAD NEWYDDION: 13384

Gweinidog i blannu 1,000 o goed i ddathlu pen-blwydd cyntaf coetir

Bydd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, yn ymuno â phlant lleol i blannu 1,000 o goed mewn coedwig ger Tredegar ar ddydd Mawrth, 16 Mawrth.

Bydd y digwyddiad yn dathlu pen-blwydd cyntaf Coed Bryn Oer a grëwyd y llynedd pan blannodd y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, 500 o goed ar drydydd lleoliad prosiect Plant! Bydd digwyddiad eleni’n gweld 1,000 o goed llydanddail brodorol yn cael eu plannu ar safle Coed Bryn Oer.

Cynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru yw prosiect Plant! sy’n anelu i greu Coedwig Genedlaethol o goed brodorol i Gymru trwy blannu coeden ar gyfer pob baban newydd a mabwysiedig yng Nghymru o 1 Ionawr 2008. Caiff ei redeg gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru a Coed Cadw.

Cafwyd y syniad gwreiddiol ar gyfer y cynllun gan ferch ysgol o Gaerdydd fel ffordd o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, gyda’r coetiroedd newydd yn gweithredu fel suddfan garbon. Bydd pob plentyn yn derbyn tystysgrif yn eu hysbysu o leoliad eu coeden a’r gobaith yw y bydd y prosiect yn gwella cynefinoedd brodorol ac yn adeiladu cysylltiadau cryfach rhwng y plant a’r amgylchedd.

Bydd disgyblion o dair ysgol gynradd leol - Ysgol Y Lawnt, Bryn Bach a Rhymni Uchaf - yn helpu’r Gweinidog i blannu’r coed fel rhan o ddiwrnod llawn hwyl a fydd hefyd yn cynnwys y cyfle i greu cerfluniau coed, gweithdy drama, gweithgareddau crefftau coed a gemau amgylcheddol.

Trefnir y digwyddiad gan Wasanaeth Cefn Gwlad a Thirwedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy’n gobeithio defnyddio’r digwyddiad i ehangu rhagolygon y plant a’u hannog i ymweld â chefn gwlad, yn ogystal â chadw’n heini ac yn iach.

Dywedodd y Gweinidog: "Bydd prosiect Plant! yn rhoi synnwyr o berchnogaeth dros yr amgylchedd naturiol i blant a phobl ifanc. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd y prosiect yn eu hannog nhw a’u teuluoedd i fanteisio i’r eithaf ar fuddion corfforol a meddyliol cefn gwlad godidog Cymru a threulio amser yn yr awyr agored.

"Trwy ymrwymo’r plant a’u teuluoedd ym mhrosiect Plant! rwy’n obeithiol y bydd hynny’n arwain at ddiddordeb hir dymor yn yr amgylchedd ac awydd i ofalu amdano."

Nodiadau i Olygyddion

Lansiwyd PLANT! ym mis Rhagfyr 2007 gyda’r amcan o blannu coeden ar gyfer pob baban newydd neu fabwysiedig yng Nghymru ar ôl i Ionawr 2008.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch ymweld â safleoedd Plant! a sut i gyfrannu at y prosiect ar gael o wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Caiff prosiect Plant! ei gynnal ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru mewn partneriaeth â Coed Cadw. Mae’n ymrwymiad yn rhaglen Cymru’n Un fel rhan o ymgyrch y Cynulliad i greu amgylchedd cynaliadwy.

Bydd 50,000 o goed brodorol yn cael eu plannu ar safle Coed Bryn Oer yn 2010 ac mae 10,878 o dystysgrifau wedi cael eu cyflwyno ar ran y coetir hwn hyd yn hyn. Yn ogystal â Choed Bryn Oer, mae 23,000 o goed wedi cael eu plannu ar safle Cefn Coed Ila, Brynbuga, a 10,000 o goed wedi’u plannu ar safle Coed Ysgubor Wen, Tywyn.

Darperir arlwyaeth gan arlwywyr "Fferm Penrhiw", gweithgareddau crefftau coed gan "Dryad Bushcraft" a gweithgareddau celf gan brosiect "Heads 4 Arts".

Mwy o wybodaeth/ymholiadau, cysylltwch ag Lajla Cash ar 07769 724 866 os gwelwch yn dda