Mae tȋm o wyddonwyr Cymru’n gweithio fel lladd nadroedd i ganfod ateb i fygythiad angheuol afiechyd Schmallenburg - y firws sy’n achosi erthyliadau a namau geni mewn defaid.
Hyd yma, does yr un achos o’r afiechyd newydd yng Nghymru. Credir ei fod yn cael ei gario gan wybed (Culicoides) i’r DU o dir mawr Ewrop.
Ac mae ymchwilwyr prosiect IMPACT yn Aberystwyth ac Abertawe yn gobeithio y bydd eu gwaith diweddaraf ar reoli gwybed yn arwain at leihau nifer y pryfed bach iawn sy’n brathu, ac felly’n lleihau’r posibilrwydd o ledaenu’r afiechyd.
Maen nhw’n ymchwilio i ffyrdd naturiol newydd o reoli’r gwybed - a oedd hefyd yn achosi'r afiechyd tafod glas mewn rhai ardaloedd o Loegr.
Mae’r prosiect - Rheolaeth Integredig o Bla Coedwig yn Ateb Tueddiadau Hinsawdd - yn cael ei ariannu ar y cyd gan y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd trwy Raglen Iwerddon Cymru (INTERREG IVA) COFORD a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Mae Prifysgol Abertawe, partner prosiect IMPACT, newydd gyhoeddi’i ganfyddiadau diweddaraf ar y gwaith, sy’n edrych ar ddefnyddio ffwng - Metarhizium anisopliae – i reoli’r gwybed sy’n brathu. Mae poblogaethau’r gwybed yn gallu cynyddu gyda newid hinsawdd.
Eisoes, ystyrir brechu defaid a gwartheg fel ateb i’r afiechyd newydd, ond gallai gymryd blynyddoedd i’w ddatblygu.
“Gallai ffyrdd newydd o reoli poblogaeth y gwybed, y credir sy’n cario’r firws rhwng anifeiliaid, leihau’r risg yn sylweddol,” meddai’r Athro Tariq Butt, y mae’i waith yn Abertawe’n rhan bwysig o Brosiect IMPACT.
“Mae’r mesurau rheoli presennol yn dibynnu ar blaladdwyr synthetig, sy’n beryglus i ddynion ac i’r amgylchedd, ond nid y rhai amgen, naturiol. Gyda darogan y bydd newid hinsawdd yn achosi tywydd cynhesach, gwlypach a hynny’n cynyddu poblogaethau’r gwybed, gallai’r dewisiadau naturiol fod yn ddefnyddiol iawn i leihau’u niferoedd.”
Roedd y tȋm ymchwil eisoes yn gwybod fod y ffwng entomopathogenig - llad pryfed - yn gallu lladd larfae’r gwybedyn, Culicoides nubeculosus, ac y gellid, felly, ddefnyddio llai o blaladdwyr cemegol niweidiol.
Dangosodd gwaith yn y labordai yn Abertawe y gellid defnyddio rhywogaeth V275 o'r ffwng mewn rhaglenni rheoli gan ei fod hefyd yn lladd oedolion y gwybed, gyda rhai profion yn y labordy'n dangos 100 y cant o lwyddiant o fewn pum diwrnod.
“Nawr, rydym yn edrych ar ffyrdd doeth o ddefnyddio’r ffwng, yn profi gwahanol bethau i ddenu oedolion y gwybed at abwyd wedi’i lygru gan sborau’r ffwng, a fydd yn lladd y nifer mwyaf o wybed gyda’r lleiaf posibl o’r , ffwng a bod yn sicr mai dim ond y rhywogaethau hynny o wybed sy’n cael eu targedu." meddai Tariq.
Mae’r tȋm IMPACT, sy’n gynnwys arbenigwyr o Ymchwil Coedwig Cymru, Prifysgol Genedlaethol yr Iwerddon, Maynooth a Phrifysgol Abertawe'n chwilio am safleoedd i gynnal cyfres o dreialon maes.
Mae’r tȋm prosiect yn ymchwilio i ffyrdd newydd o daclo amrywiaeth eang o bla pwysig sy’n gallu cael effaith ddramatig ar goedwigoedd a choetiroedd ledled y DU a’r Iwerddon.
“Mae eithafion cynyddol ein tywydd - tymheredd poeth neu oer, cynnydd mewn glaw a llifogydd - yn creu’r amodau delfrydol i bla mewn coedwigoedd,” meddai’r Athro Hugh Evans o Ymchwil Coedwig Cymru, arweinydd prosiect IMPACT.
“Mae Schmallenburg yn enghraifft glasurol o’r rhyngweithio rhwng yr hinsawdd ac ymddangosiad afiechydon mewn ardaloedd newydd,” meddai.
“Hyd at ddiwedd yr 20fed ganrif, roedd prif afiechydon firws mewn anifeiliaid yn Ewrop yn tueddu i’w canfod mewn gwledydd deheuol, ond maen nhw’n dechrau ymddangos yng ngogledd Ewrop wrth i’r tywydd gynhesu a hynny’n galluogi’r gwybed i ymestyn at y gogledd.
“Er enghraifft, mae’n ymddangos mai newid hinsawdd sy’n gyfrifol am ymddangosiad y firws tafod glas ym Mhrydain, sy’n cael ei gario gan wybed.
Cysylltwch â: Yr Athro Tariq Butt, Prifysgol Abertawe, ar 01792 295374.
Yr Athro Hugh Evans, Ymchwil Coedwig Cymru, ar 0300 068 0079.
Guy Pargeter, Taliesin Communications, ar 01970 832375.
NODIAU I OLYGYDDION
Firws Schmallenberg – mae wedi’i enwi ar ôl tref yn yr Almaen ble cafodd ei ddarganfod gyntaf – mae’n achosi twymyn a dolur rhydd mewn anifeiliaid mewn oed, ond maen nhw’n gwella. Pryfed, mosgitos neu wybed sy’n ei gario rhwng anifeiliaid. Fodd bynnag, mae heintio wŷn a lloi yn y groth ar adeg bwysig a’r ŵyn a’r lloi’n cael eu geni gyda nam ar yr aelodau, asgwrn cefn neu’r ymennydd. Mae llawer yn cael eu geni’n farw. Ar hyn o bryd mae wedi’i ganfod ar 83 o ffermydd yn y DU, yn ne-ddwyrain Lloegr yn bennaf.
IMPACT - Rheolaeth Integredig o Bla Coedwig yn Ateb Tueddiadau Hinsawdd - yn cael ei gyd-gyllido gan y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd trwy Raglen Iwerddon Cymru (INTERREG IVA) COFORD a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Mae’r prosiect IMPACT –Rheolaeth Integredig Tueddiadau Hinsawdd Pla Coedwigoedd - yn cael ei arwain gan Ymchwil Coedwig Cymru, uned ymchwil a lansiwyd yn 2009 yn Aberystwyth, gyda Phrifysgol Genedlaethol Iwerddon, Maynooth, a Phrifysgol Abertawe. Mae’n rhedeg am dair blynedd hyd at 31 Rhagfyr 2012. Gwybodaeth bellach: www.impactproject.eu
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol arweiniol o safon fyd-eang o ran ymchwil sydd mewn parc ysblennydd yn edrych dros Fae Abertawe ar fin penrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU. Cafodd y Brifysgol ei sefydlu yn 1920 ac erbyn hyn mae’n cynnig tua 500 o gyrsiau israddedig a 150 o gyrsiau ôl raddedig i dros 13,800 o fyfyrwyr. Ewch i www.swansea.ac.uk.
Ymchwil Coedwig yw asiantaeth ymchwil y Comisiwn Coedwigaeth. Mae’n un o arweinwyr byd-eang mewn ymchwil a datblygu coedwigaeth gynaliadwy ac mae’n sefydliad pennaf Prydain dros ymchwil mewn perthynas â choedwigaeth a choed, gydag arbenigwyr ar bynciau yn amrywio o reoli coed a gwarchod coetiroedd rhag newid hinsawdd i dracio heintiau ac afiechydon newydd, a hefyd archwilio lles cymdeithasol a chymunedol coetir mewn ardaloedd trefol a gwledig.
Ymchwil Coedwig Cymru: Mae’r Uned Ymchwil Coedwig Cymru newydd ei sefydlu yn Aberystwyth yn edrych am gyfleoedd ymchwil yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Mae’n gweithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid, yn enwedig Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, i gwmpasu a darparu ymchwil a throsglwyddo technoleg yn briodol. Mae’n datblygu cysylltiadau gyda’r gymuned ymchwil, prifysgolion a sefydliadau'r llywodraeth hefyd yng Nghymru.
Comisiwn Coedwigaeth Cymru: Mae cyfanswm o 14% y cant o Gymru o dan goetir. O hyn, Llywodraeth Cymru piau 38% (126,000 hectar / 311,000 acer). Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw adran coedwigaeth Llywodraeth Cymru ac mae’n rheoli’r coetiroedd hyn ar ei rhan. Mae rhagor o wybodaeth ar goetiroedd yng Nghymru ar gael ar www.forestry.gov.uk/wales