Fe ddaeth un o arbenigwyr enwocaf y byd ar newid yn yr hinsawdd i’r Senedd yng Nghaerdydd i gyflwyno ei adroddiad sydd ag ystod eang, sef Mynd i’r Afael â Newid yn yr Hinsawdd - Rôl Coedwigoedd yn y DU, i aelodau’r Cynulliad.
Bu’r Athro Syr David Read, sy’n awdurdod adnabyddus ar yr hyn a alwyd yr her fwyaf i’r blaned, yn cadeirio’r grŵp a luniodd yr adroddiad a oedd yn ymchwilio i rôl coedwigoedd a choed o ran ymateb y genedl i gynhesu byd-eang.
Mae adroddiad yr Athro Read yn rhoi dadansoddiad manwl, yn seiliedig ar wyddoniaeth ar sut y gall coed helpu mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac mae’n galw am nifer o gamau gweithredu a allai drawsnewid cefn gwlad Cymru, yn ogystal â golwg ein trefi a’n dinasoedd, pe cânt eu derbyn gan Lywodraeth y Cynulliad.
Mae cyflwyno ymdriniaeth ddylanwadol “Adroddiad Read” heddiw yng Nghymru - mae eisoes wedi’i groesawu gan lywodraeth y DU eisoes yn San Steffan - yn dilyn cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar gan Grŵp Defnydd Tir a Newid Hinsawdd y Cynulliad a oedd yn argymell bod 100,000 hectar ychwanegol o goetir newydd yn cael eu creu yng Nghymru dros y 20 mlynedd nesaf.
Byddai rhaglen mor ddramatig i greu coetir yn cynyddu gorchudd coed yng Nghymru gan draean o’i lefel bresennol o 285,000 o hectarau - ac mae’r Athro Read, sy’n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ac yn gyn Is-lywydd ac Ysgrifennydd Biolegol iddi, o’r farn y dylid targedu ein trefi a’n dinasoedd hefyd.
Dywed yr Athro Read - sy’n Athro Emeritws Gwyddor Planhigion yn Adran Gwyddorau Anifeiliaid a Phlanhigion ym Mhrifysgol Sheffield - wrth wynebu newid yn yr hinsawdd fod “angen ymatebion sylweddol gan y sector coedwigaeth”.
Dywedodd wrth y gwahoddedigion, “Mae ein holl waith ymchwil yn awgrymu y gall coedwigaeth wneud cyfraniad sylweddol a chost effeithiol o ran cyrraedd targedau heriol y DU ar gyfer lleihau allyriadau.
“Tra bod gan gynifer o fesurau lleihau allyriadau arwyddocâd negyddol, gall plannu coed fod yn ateb lle mae pawb yn ennill: mae pobl wrth eu boddau gyda choed, rydym yn cael budd ohonynt mewn cymaint o ffyrdd gwahanol, ac rydym yn gwybod bellach y gallai fod ganddynt rôl sylweddol i’w chwarae o ran lleihau allyriadau carbon deuocsid y DU.”
Mae mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth y Cynulliad, sy’n ymrwymedig i sicrhau lleihad blynyddol o 3% mewn allyriadau sy’n cyfateb i garbon erbyn 2011.
Yn ymuno ag Aelodau’r Cynulliad a’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones ar gyfer cyflwyniad yr athro o uchafbwyntiau’r adroddiad oedd Tim Rollinson, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Comisiwn Coedwigaeth, a gomisiynodd yr asesiad annibynnol o goedwigaeth a newid yn yr hinsawdd yn y DU.
Ystyrir mai’r astudiaeth yw’r asesiad cenedlaethol cyntaf o’i fath yn y byd ac mae eisoes yn denu diddordeb gan wledydd eraill sy’n awyddus i ffurfio eu cynlluniau a pholisïau newid hinsawdd eu hunain.
Mae strategaeth ddiwygiedig Coetiroedd i Gymru’n cydnabod y rôl y gall coetiroedd a’u cynnyrch ei chael o ran mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a hefyd pwysigrwydd yr angen iddynt addasu ar gyfer newidiadau yn y dyfodol.
Dywedodd Elin Jones, “Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn fel cyfraniad sylweddol at wyddoniaeth o ran rôl coed a choetiroedd o ran lliniaru newid yn yr hinsawdd.
“Mae canfyddiadau’r adroddiad hwn yn dangos yr hyn rydym eisoes yn ei gydnabod yng Nghymru fel y cyfraniad gwerthfawr y gall coetiroedd a choed ei wneud o ran mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.”
Dywed yr adroddiad fod newid yn yr hinsawdd eisoes yn effeithio ar goedwigaeth yn y DU ac mae efelychiadau enghreifftiol o newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol yn dangos y bydd y DU yn parhau i gynhesu’n sylweddol yn ystod y ganrif hon, gydag amlder a difrifoldeb cynyddol o sychder yn ystod yr haf a newidiadau i batrymau dŵr glaw.
Ychwanega, “Mae gan goed rôl bwysig o ran helpu’r gymdeithas i ymaddasu ar gyfer newid yn yr hinsawdd, yn enwedig yn yr amgylchedd trefol, drwy ddarparu lloches, lle i oeri, cysgod a rheoli dŵr ffo. Bydd gorchudd coed a choetir mewn ardaloedd trefol yn fwyfwy pwysig ar gyfer rheoli tymereddau lleol a dŵr wyneb.”
Mae’r adroddiad yn cydnabod bod y galwadau ar dir at ddibenion eraill - cynhyrchu bwyd a datblygu trefol yn fwyaf amlwg - yn effeithio ar y potensial economaidd i dir gael ei ddyrannu i goedwigaeth ac yn dweud y dylid archwilio cyfleoedd ariannu mwy arloesol ar gyfle creu coetiroedd, megis trosoli arian preifat o gyllidebau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol neu o gyllidebau lleihau allyriadau cwmnïau.
Mae canfyddiadau eraill yn cynnwys:
mae cryfder y ddalfa garbon a ddarperir gan goedwigoedd yn y DU yn prysur wanhau a byddai cynyddu cyfradd plannu coetiroedd newydd yn helpu gwrthdroi’r dirywiad hwn;
pe byddai 4% ychwanegol o goetir newydd yn cael ei blannu ar dir y DU dros y 40 mlynedd nesaf, gallai fod yn amsugno 10% o allyriadau nwyon tŷ gwydr rhagweledig erbyn y 2050au;
mae’n debygol iawn y bydd gan newid yn yr hinsawdd effeithiau difrifol ar rai rhywogaethau coed a bydd angen i goedwigwyr ystyried cyflwyno rhywogaethau newydd, gan gynnwys y rheiny o gyfandir Ewrop, i sicrhau bod coedwigoedd yn gwrthsefyll newidiadau yn yr hinsawdd;
gall plannu coetir ar hyd coridorau afonydd trefol fod â rôl bwysig o ran lleihau straen thermol i bysgod a bywyd dŵr ffres;
os bydd y farchnad am gynnyrch adeiladu pren yn parhau i dyfu ar ei chyfradd bresennol dros y 10 mlynedd nesaf, mae’n bosibl y bydd modd cadw amcangyfrif o dros 10 miliwn o dunelli ychwanegol (Mt) o garbon (sy’n gyfwerth â 36.7 Mt C02) mewn cartrefi newydd a’r rheiny sydd wedi’u hadnewyddu erbyn 2019;
o fewn y pum mlynedd nesaf, mae gan danwydd pren y posibilrwydd o arbed swm sy’n gyfwerth ag oddeutu saith miliwn o dunelli o allyriadau CO2 y flwyddyn drwy ddisodli tanwyddau ffosil. Dywed yr adroddiad fod defnyddio biomas ar gyfer gwresogi’n darparu un o’r ffyrdd mwyaf cost effeithiol ac amgylcheddol dderbyniol o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Caiff yr adroddiad ei lansio yng Nghymru am 5pm ddydd Mawrth, 16 Mawrth yn Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd, pan fydd yr Athro Read yn rhoi cyflwyniad yn amlinellu ei ganfyddiadau.
NODIADAU I OLYGYDDION
1. Etholwyd Syr David Read fel Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol ym 1990 a bu’n Is-lywydd ac Ysgrifennydd Biolegol tan 2008. Ef yw Athro Emeritws Gwyddor Planhigion yn Adran Gwyddorau Anifeiliaid a Phlanhigion ym Mhrifysgol Sheffield.
2. Bu’r Athro Read yn cadeirio grŵp llywio annibynnol o arbenigwyr ym maes coedwigaeth a newid yn yr hinsawdd yn y DU a thramor a oedd yn cydlynu’r broses o lunio’r adroddiad, Mynd i’r Afael â Newid yn yr Hinsawdd – Rôl Coedwigoedd yn y DU, a gomisiynwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth i ystyried posibilrwydd coed a choetiroedd yn y DU i liniaru ac ymaddasu i’n hinsawdd gyfnewidiol.
3. Mae’r adrodd yn ffurfio rhan o ymateb y DU i bedwerydd Adroddiad Asesu’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC). Rhoddodd yr adroddiad IPCC dystiolaeth awdurdodol ar sut y gall plannu a rheoli coetir, osgoi datgoedwigo ac amnewid tanwyddau ffosil a chynnyrch carbon Ddwys am bren wneud cyfraniad pwysig at liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd. Edrychodd hefyd ar effeithiau newid yn yr hinsawdd ar goedwigoedd, a phwysigrwydd ymaddasu i wneud ecosystemau coedwigoedd yn fwy gwydn.
4. Os cyrhaeddir y targed a argymhellwyd gan y Grŵp Defnydd Tir a Newid Hinsawdd o 100,000 o hectarau ychwanegol o goetir newydd yng Nghymru dros yr ugain mlynedd nesaf, erbyn 2050 bydd y coetir hwn yn lliniaru bron i draean o allyriadau amaethyddol presennol.
5. Er bod ardal goedwig bresennol y DU wedi mwy na dyblu dros y 80 mlynedd ddiwethaf, ar gyfradd o tua 12% mae ymhlith y lefel isaf o unrhyw wlad yn Ewrop. Mae gorchudd coed yng Nghymru, ar lefel 14%, yn uwch nag unrhyw lefel gyfartalog yn y DU ond mae angen i goetiroedd newydd gael eu creu yma i wneud cyfraniad sylweddol at dargedau’r DU a rhai Cymru ei hun.
6. Mae’r adroddiad yn awgrymu bod plannu priodol 23,000 o hectarau’r flwyddyn - sy’n gyfwerth â thua 30,000 o gaeau pêl-droed - dros 40 mlynedd yn cynnwys newid defnydd 4% o dir y DU yn unig. Byddai hyn yn golygu cynyddu nifer y coed a blennir gan 200% o’u cymharu â’r lefelau presennol. Byddai’n golygu cynyddu gorchudd coetir yn y DU i 16% o’r ardal dir, sy’n dal i fod yn is o lawer na lefel gyfartalog Ewrop o 37%.