Mae corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd drosodd y swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Bydd ychydig o wasanaethau ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael eu darparu ar y wefan hon am gyfnod cyfyngedig.


Nod tudalen & Rhannu
14 MAI 2012 DATGANIAD NEWYDDION: 15392

This page is now over a year old and information may not be up-to-date. Please go back to http://www.forestry.gov.uk/news for more accurate information

Cyfle olaf i’r blociau toiledau

Bydd ymwelwyr â Llyn Geirionnydd a Llyn Crafnant ger Llanrwst yn gallu ateb galwad natur wrth fwynhau’r golygfeydd ar ôl i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru adnewyddu’r blociau toiledau’n llwyr.

Yn ôl y Rheolwr Ardal lleol, Tim Gordon-Roberts, mae’r toiledau’n ased gwerthfawr ac yn ei gwneud yn haws i’r gymuned leol ddefnyddio’r llwybrau yng nghoedwig Gwydyr yn ogystal â denu ymwelwyr i’r ardal.

Meddai Tim, “Mae pobl yn aros yn llawer hirach, felly maen nhw'n gallu mwynhau’r lle yn fwy pan mae adnoddau sylfaenol ar gael."

Fodd bynnag, rhybuddiodd Tim y gallai’r fandaliaid sy’n targedu’r bloc toiledau’n rheolaidd yn Llyn Geirionnydd amddifadu ymwelwyr, yn y pen draw, o’r adnodd sylfaenol hwn.

“Yn anffodus, mae fandaliaid wedi difetha’r toiledau hyn yn ystod y blynyddoedd diweddaf ac allwn ni ddim fforddio dal i wario arian cyhoeddus yn eu trwsio,” meddai.

“Felly dyma’u cyfle olaf:  os bydd y bloc yn cael ei fandaleiddio eto ac yn dod yn rhy ddrud i'w gynnal a’i gadw, fydd gennym ni ddim dewis ond ei ddymchwel."

Os gwyddoch chi pwy sy’n gyfrifol am y fandaliaeth neu os ydych yn gweld unrhyw beth amheus, gallwch gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar Daclo’r Taclau ar 0800 555 111.

Ychwanegodd Tim, “Byddai’n drueni pe byddai ond ychydig iawn o unigolion hunanol yn cael llonydd i ddifetha’r ardal i bawb arall gyda’u hymddygiad gwrthgymdeithasol, ond gallai un alwad ffôn helpu i gadw'r adnoddau pwysig ar agor."

Pennawd: Ymwelwyr yn mwynhau'r golygfeydd yn Llyn Geirionydd

NODIAU I OLYGYDDION

Mae cyfanswm o 14.3 y cant o Gymru o dan goetir. O hyn, Llywodraeth Cymru piau 38% (126,000 hectar / 311,000 acer).

Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw adran coedwigaeth Llywodraeth Cymru ac mae’n rheoli’r coetiroedd hyn ar ei rhan.

Mae rhagor o wybodaeth ar goetiroedd yng Nghymru ar gael ar www.forestry.gov.uk/wales

Ewch i Newyddion CC Cymru i gael newyddion, lluniau manylion cyswllt swyddfa’r wasg ac astudiaethau achos.

Cyswllt Swyddfa'r Wasg: Clive Davies ar 0300 068 0061, symudol 07788 190922, e-bost clive.davies@forestry.gsi.gov.uk


e-mail: tim.gordon-roberts@forestry.gsi.gov.uk