Nod tudalen & Rhannu
17 MAWRTH 2010 DATGANIAD NEWYDDION: 13407

Y rhew yn atal y rhaglen blannu

Mae planwyr coed Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn gwneud eu gorau glas i gwblhau eu rhaglen blannu mewn pryd. Bu’n rhaid ei gohirio oherwydd y gaeaf caled – y caletaf ers dros ddeng mlynedd ar hugain.

Ni fu’n bosibl cael mynediad i nifer o’r coedwigoedd ers canol mis Rhagfyr, oherwydd y tywydd garw. A hyd yn oed ar ôl llwyddo i gyrraedd yr ardaloedd plannu, canfuwyd bod y ddaear wedi rhewi ac nad oedd yn bosibl plannu coed.

Mae pawb bellach, yn cynnwys staff Comisiwn Coedwigaeth Cymru, y contractwyr plannu a’r prentisiaid, yn gweithio fel lladd nadredd er mwyn ceisio plannu tair miliwn o goed.

Mae angen plannu 1200 hectar o goed eleni – ac mae un hectar tua’r un maint â Stadiwm y Mileniwm.

Yn ogystal â chonwydd, bydd 600,000 o goed llydanddail, yn cynnwys derw, bedw, criafol ac ynn, yn cael eu plannu er mwyn cynyddu bioamrywiaeth coetiroedd Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Bydd gan y coed newydd rôl bwysig i’w chwarae yn y frwydr i leihau ôl troed carbon Cymru. Byddant yn creu ffynhonnell egni carbon isel ar gyfer y cenedlaethau a ddaw, tra bydd y coedwigoedd conwydd yn darparu coed ar gyfer adeiladu, yn lle concrit neu ddur.

Meddai Steve Mather, Rheolwr Gweithrediadau Ardal, "Dyma’r tymor plannu mwyaf heriol i mi ei gofio erioed.

"Mae’r tymheredd isel a’r cyfnodau o eira yn golygu y bydd yn rhaid i ni ddal ati i blannu ym mis Ebrill eleni.

"Rydym yn gobeithio na ddaw’r gwanwyn yn rhy gynnar, neu bydd ein coed ifanc yn dechrau blaguro a byddant yn anaddas i’w plannu yn y goedwig."

Pennawd ar gyfer y llun: derwen ifanc

NODIADAU I OLYGYDDION

Comisiwn Coedwigaeth Cymru

Mae tua 14% o dir Cymru dan goed. Mae 38% (126,000 hectar / 311,000 erw) o hyn yn eiddo i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw adran coedwigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n rheoli’r coetiroedd hyn ar ei rhan.

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn rhoi cyngor ar bolisi coedwigaeth i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am goedwigaeth. Mae’n darparu cymorth grant i’r sector preifat ac yn rheoleiddio coedwigaeth drwy roi trwyddedau torri coed.

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru hefyd yn rhan o Gomisiwn Coedwigaeth Prydain Fawr ac mae’n cyfrannu at yr agenda goedwigaeth ryngwladol.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am goetiroedd Cymru yn www.forestry.gov.uk/wales

Cysylltiad i’r Wasg: Mary Galliers, mary.galliers@forestry.gsi.gov.uk