Clywodd Mr Morgan am rôl economaidd bwysig y ganolfan, sy’n denu dros 120,00 o ymwelwyr bob blwyddyn ac sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi lleol, pan gyfarfu â Ruth Jenkins, y Rheolwr Rhanbarth Coedwig, ar y safle.
Canolbwynt y safle yw’r ganolfan ymwelwyr gron drawiadol, a gafodd ei chynllunio’n arbennig fel ei bod yn gweddu i’r cefndir coediog, ac a adeiladwyd gyda defnyddiau lleol a phren o safle Coed y Brenin ei hun.
Mae gan y ganolfan nodweddion ecolegol neilltuol, megis to estyll, ynysiad naturiol a system wresogi tanwydd coed, a cheir golygfa odidog i lawr y dyffryn tuag at Gadair Idris o’r balconi.
Mae’r ganolfan hon wedi’i hadeiladu’n bwrpasol i gwrdd ag anghenion pob defnyddiwr, ac mae yma gaffi ardderchog ynghyd â chawodydd ar gyfer beicwyr mynydd ac eraill sy’n dewis anturio ar hyd y rhwydwaith o lwybrau sy’n ymdroelli drwy’r coed o’r adeilad. Mae yma hefyd siop feiciau a cheir ystafell ddosbarth ac ystafell ar gyfer cyfarfodydd ar y llawr uchaf.
Mae Coed y Brenin wedi hen ennill ei blwyf fel Mecca i feicwyr mynydd, a chafodd y datblygiad hwn ei gomisiynu gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru pan ddaeth yn amlwg na allai’r ganolfan wreiddiol ym Maesgwm, a oedd yn dod yn gynyddol boblogaidd, bellach gynnig y lefel o wasanaeth a ddisgwylid.
Mae’r Ganolfan Ymwelwyr yn ganolbwynt ar gyfer ystod eang o weithgareddau hamdden, sy’n cynnwys nid yn unig beicio mynydd ond hefyd cyfeiriannu, llwybrau natur a llwybrau cerdded sy’n eich arwain tuag at nodweddion naturiol dramatig a safleoedd pwysig o safbwynt hanes lleol. Mae Graeme Stringer, y Ceidwad Hamdden, yn ymfalchïo yn y llwybrau-pob-gallu y mae wedi’u datblygu drwy’r goedwig, ac sy’n gwneud Coed y Brenin yn lle i bawb.
Cafodd y ganolfan, sydd wedi’i lleoli ar ochr ddwyreiniol Afon Eden ar draws ffordd yr A470 o’r ganolfan wreiddiol, ei hariannu gan Amcan 1, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, yr hen Awdurdod Datblygu Cymru a Bwrdd Croeso Cymru, a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Ceir man chwarae i blant wrth ymyl y ganolfan ynghyd â llwybr pos anifeiliaid sy’n arwain at ardal bicnic Afon Eden, sy’n hygyrch i bawb.
Meddai’r Prif Weinidog, “Mae Coed y Brenin yn lle delfrydol i gerddwyr a beicwyr mynydd, a gallant fwynhau golygfeydd gwych Eryri oddi yma. Dylai’r cyfleusterau newydd yng Nghoed y Brenin, a adeiladwyd gyda chymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru, ddenu mwy fyth o ymwelwyr i’r ardal bob blwyddyn, a bydd hyn yn ei dro yn dod â rhagor o fanteision economaidd i’r ardal.”
NODIADAU I OLYGYDDION