Tra oedd y plant ar eu gwyliau, aeth rhai o’u hathrawon yn ôl i’r ysgol yr haf hwn a mynychu cyfres o ddyddiau hyfforddi yng Ngogledd-ddwyrain Cymru a drefnwyd gan dîm Coetiroedd ar gyfer Dysgu Comisiwn Coedwigaeth Cymru.
Cynhaliwyd y 12 diwrnod o hyfforddiant mewn coetiroedd cyhoeddus a phreifat ac mewn parciau gwledig yn Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych.
Bu’r athrawon yn rhoi cynnig ar wahanol weithgareddau er mwyn profi’r tasgau y bydd y plant yn eu cyflawni yn ystod digwyddiadau addysgol yn y coetiroedd.
Buwyd yn trafod sut i ddysgu pynciau megis ecoleg a bioamrywiaeth yn ystod y sesiynau a chafodd y cynrychiolwyr gyfle i ddysgu sut i ymdrin â grwpiau o wahanol oedran a gwahanol fathau o grwpiau mewn amgylchedd coetir.
Aethant i’r goedwig er mwyn dilyn Llwybr Rhifedd Moel Famau ac ymarfer sgiliau ‘byw yn y gwyllt’ cyn rhoi cynnig ar lunio eitemau fel bychau adar a phlethu helyg.
Cawsant gyfle hefyd i ddangos eu doniau creadigol, a buont yn gwneud llusernau ac yn troi eu llaw at byrograffeg – sef y gelfyddyd o ddefnyddio offeryn poeth i addurno pren.
Meddai Vanessa Warrington, o Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych, a fu ar y cwrs, "Mae pyrograffeg yn weithgaredd braf a byr y gellir rhoi cynnig arno gyda theuluoedd.
"Roedd gwneud llusernau yn brofiad gwych, a byddwn yn gallu defnyddio’r gweithgaredd hwn yn ein Gŵyl Tŵr Jiwbili ym mis Hydref."
Bu athrawon, hyfforddwyr ac eraill sy’n ymwneud â dysgu o Impio, sef Grŵp Clwstwr Menter Addysg Goedwig Gogledd-ddwyrain Cymru, yn mynychu’r dyddiau hyfforddi.
Nod Menter Addysg Goedwig yw cynyddu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, o goed, coetiroedd a choedwigoedd ac o’r cysylltiad rhwng y goeden a chynhyrchion coed pob dydd.
Meddai Carolyn Threlfall o’r tîm Coetiroedd ar gyfer Dysgu, "Mae aelodau grwpiau clwstwr Menter Addysg Goedwig yn cael arian o gronfa bartneriaeth MAG ar gyfer prosiectau i blant ond anaml y maent yn cael cyfle i gael hyfforddiant eu hunain.
"Mae wedi bod yn brofiad buddiol iddynt gael amser i ffwrdd a hogi eu sgiliau eu hunain ac roeddem yn falch o’r cyfle i roi rhywbeth yn ôl i’r aelodau drwy eu helpu i wella eu sgiliau a rhannu arfer da."
Bydd llawer o’r darparwyr a fu’n cynnal y dyddiau hyfforddi yn cynnal gweithdai yn Niwrnod Rhwydweithio Cenedlaethol Menter Addysg Goedwig Prydain Fawr 2010, a gynhelir yn Llangollen ar 10 Medi.
Nodiadau i Olygyddion
Mae tîm Coetiroedd ar gyfer Dysgu Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn darparu profiadau dysgu’n seiliedig ar goetiroedd drwy Gymru gyfan ac yn cefnogi datblygu a chyflwyno’r Ysgol Goedwig. Mae hefyd yn hwyluso’r Fenter Addysg Goedwig ar ran ei bartneriaid.
Nod Menter Addysg Goedwig (MAG) yw cynyddu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, o botensial amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd coed, coetiroedd a choedwigoedd ac o’r cysylltiad rhwng y goeden a chynhyrchion coed pob dydd.
Sefydliad rhwydwaith o grwpiau clwstwr yw Menter Addysg Goedwig. Mae’r grwpiau hyn yn gweithredu’n unol ag anghenion lleol ac maent yn cynnwys athrawon, perchenogion coetiroedd, elusennau amgylcheddol, cynrychiolwyr o’r Awdurdodau Addysg Lleol a Thîm Coetiroedd ar gyfer Dysgu Comisiwn Coedwigaeth Cymru sy’n aml yn cymryd rôl yr ysgrifennydd. Mae yna 22 o grwpiau clwstwr yng Nghymru ar hyn o bryd.
I gael rhagor o wybodaeth am Fenter Addysg Goedwig a sut i ymuno â’ch grŵp clwstwr lleol ewch i www.foresteducation.org neu cysylltwch â Kim Burnham, Cydlynydd Cymru ar 0300 068 0300 kim.burnham@forestry.gsi.gov.uk.
I gael rhagor o wybodaeth am grŵp clwstwr Impio yng Ngogledd-ddwyrain Cymru ewch i www.foresteducation.org/local_groups.php?id=131.