Nod tudalen & Rhannu
18 MAWRTH 2010 DATGANIAD NEWYDDION: 13411

Ceidwaid Bywyd Gwyllt newydd i ddiogelu coetiroedd brodorol

Bydd coed a choetiroedd yng Nghymru’n elwa o ddiogelwch cynyddol diolch i benodiad dau Geidwad Bywyd Gwyllt gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.

Mae James Upson wedi ei leoli yng nghymoedd y de ac mae Colin Cresswell wedi ei leoli ym Mhowys. Gweithiodd y ddau fel ceidwaid fyfyrwyr i Gomisiwn Coedwigaeth Lloegr cyn trosglwyddo i’w swyddi newydd yng Nghymru.

Rôl Ceidwad Bywyd Gwyllt yw diogelu coed a helpu i gynyddu bioamrywiaeth yn y coedwigoedd cyhoeddus sydd dan reolaeth Comisiwn Coedwigaeth Cymru.

Un o flaenoriaethau'r ceidwaid newydd yw diogelu coetiroedd a chynefinoedd coedwig bregus rhag cael eu difrodi gan geirw. Mae niferoedd y ceirw wedi cynyddu’n fawr dros y 40 blynedd ddiwethaf ac maent wedi ymledu i lawer o fannau yn y wlad lle nad oeddent yn bodoli yn ystod y ddau gant o flynyddoedd diwethaf.

Achosir difrod sylweddol i goetiroedd brodorol gan niferoedd uchel o geirw’n pori’r tir o amgylch coed. Mae pori’n difetha cynefinoedd adar a mamaliaid y coetir ynghyd â lleihau cyfleoedd magu a bwydo anifeiliaid infertebrat fel gloynnod byw. Yn ogystal, mae ceirw’n bwyta coed ifanc, y plannwyd llawer ohonynt gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru yn lle’r conwydd a gafodd eu tynnu i lawr.

Mae’r technegau rheoli’n cynnwys cynnal neu leihau dwysedd ceirw a gosod ffens o amgylch cynefinoedd coetir bregus dros ben. Mewn ardaloedd lle mae’r boblogaeth ceirw’n rhy uchel - gall y cynnydd blynyddol ym mhoblogaeth ceirw fod oddeutu 30% a mwy na 50% mewn ewigod - hyfforddwyd y Ceidwaid Bywyd Gwyllt i ddifa ceirw gwyllt yn ddi-boen. Mae’r ymyrraeth hon gan ddyn yn cymryd lle rôl ysglyfaethwyr cigysol mawr fel y blaidd neu’r lynca a fyddai wedi rheoli niferoedd y ceirw yn y gorffennol.

Dywedodd James Upson, "Mae ymuno â Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn gyfle gwych i mi ac rwy’n elwa o weithio gyda thîm profiadol a phroffesiynol sy’n ymroddedig i ddiogelu amgylchedd y coetir."

Dywedodd Colin Cresswell, "Drwy reoli bywyd gwyllt a diogelu coed ifanc rhag effeithiau niweidiol pori, mae’r ceidwaid yn galluogi ein coetiroedd i ddarparu buddion amgylcheddol yn awr ac i’r dyfodol."

NODIADAU AT OLYGYDDION

Comisiwn Coedwigaeth Cymru

Mae coetiroedd yn gorchuddio oddeutu 14% o Gymru. Mae 38% o hyn (sef 126,000 hectar/311,000 erw) yn eiddo i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw adran goedwigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n rheoli’r coetiroedd hyn ar eu rhan.

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n cynnig cyngor ar bolisi coedwigaeth i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am goedwigaeth. Mae’n darparu cymorth grant i’r sector preifat ac yn rheoleiddio coedwigaeth drwy gyhoeddi trwyddedau cwympo coed.

Yn ogystal, mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n rhan o Gomisiwn Coedwigaeth Prydain Fawr ac yn cyfrannu at yr agenda coedwigaeth ryngwladol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â choetiroedd Cymru ewch i www.forestry.gov.uk/wales

Cyswllt swyddfa’r wasg: Mary Galliers, mary.galliers@forestry.gsi.gov.uk 0300 030 0057