Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to prydain fawr homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  
spacer2008 datganiad spacer
spacer2007 datganiad spacer
spacer2006 datganiad spacer
spacer2005 datganiad spacer

31 GORFENNAF 2008
DATGANIAD NEWYDDION: 10851

FIDEOS O'R AWYR AR Y WE


Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi gosod fideos cyffrous o’r awyr o’r coetir yng Nghoed y Brenin a Bwlch Nant yr Arian ar ei wefan, sy’n golygu bod pobl yn gallu cael y profiad o hedfan dros y safleoedd poblogaidd hyn o gysur eu cartrefi eu hunain.
Mae fideos y ddau leoliad, ger Dolgellau ac Aberystwyth, yn cynnwys ffilm o’u llwybrau beicio mynydd a’u llwybrau cerdded sydd o safon fyd-eang, ynghyd â golygfeydd trawiadol sy’n llwyddo i ddal prydferthwch cynhenid yr ardaloedd hyn.

I weld y fideos, ewch i www.forestry.gov.uk/wales, ac wedyn dilynwch y ddolen i’r canolfannau ymwelwyr.

e-mail: clive.davies@forestry.gsi.gov.uk





to DirectGov