Nod tudalen & Rhannu
31 AWST 2010 DATGANIAD NEWYDDION: 13974

Canfod yr achos cyntaf o afiechyd coed mewn coetir preifat yng Nghymru

Mae achos o haint Phytophthora ramorum (P. ramorum) wedi’i ddarganfod am y tro cyntaf yng Nghymru ar goed mewn coetir preifat.

Mae staff o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru a’r Asiantaeth Ymchwil Bwyd a’r Amgylchedd (Fera) wedi ymweld â pherchennog y coetir yn Sir Ddinbych ac mae hysbysiad wedi’i gyflwyno i gwympo’r coed llarwydd Japaneaidd sydd wedi’u heintio. Dim ond nifer fach o goed sydd wedi’u heintio a bydd y perchennog yn defnyddio’r coed ar y safle.

Mae P. ramorum yn bathogen sy’n debyg i ffwng sy’n lladd llawer o’r coed y mae’n eu heintio. Fe’i canfuwyd am y tro cyntaf ar goed llarwydd Japaneaidd yng Nghymru ym mis Mehefin eleni mewn coetiroedd cyhoeddus yng Nghwm Afan, ger Port Talbot, yng Nghwm Garw, ger Pen-y-bont ar Ogwr ac ym Mro Morgannwg.

Yr achos yn Ne Cymru oedd y tro cyntaf i P. ramorum gael ei ddarganfod ar larwydd mewn mannau eraill ym Mhrydain Fawr ers iddo gael ei ddarganfod ar larwydd am y tro cyntaf yn Ne-orllewin Lloegr yn 2009.

Dywedodd Richard Siddons, Pennaeth Grantiau a Rheoliadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru sy’n rheoli’r coetiroedd cyhoeddus ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, "Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n benderfynol o leihau effeithiau’r afiechyd coed difrifol hwn ar goetiroedd, a bydd cymorth perchenogion coetiroedd o ran edrych am arwyddion cynnar heintiau P. ramorum yn rhan allweddol o gyflawni hynny. "

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd y Comisiwn Coedwigaeth becyn cymorth o £600,000 ar gyfer perchenogion coetiroedd yn Ne-orllewin Lloegr a Chymru i helpu i fynd i’r afael â’r achos o haint P. ramorum ar goed llarwydd. Mae’r pecyn yn rhan o raglen reoli pum mlynedd, gwerth £25 miliwn gan Defra ar gyfer Phytophthora.

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n datblygu rhaglen ategol o gymorth ar gyfer perchenogion coetiroedd preifat y mae achosion o P. ramorum wedi’u cadarnhau ar eu tir. Caiff manylion am y cymorth hwn eu cyhoeddi ym mis Medi.

Mae rhagor o wybodaeth am P. ramorum ar gael ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth sef www.forestry.gov.uk/pramorum Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y gronfa gymorth neu i roi gwybod am achosion tybiedig o heintiau P. ramorum yn eu coed, dylai perchenogion coetiroedd gysylltu â Swyddfa Grantiau a Rheoliadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru ar: 0300 068 0300 neu anfonwch neges e-bost at: bww.ts@forestry.gsi.gov.uk

NODIADAU I OLYGYDDION

Mae P. ramorum yn organeb ‘dan gwarantîn’ yn unol â Chyfraith yr Undeb Ewropeaidd ac mae’n rhaid rhoi gwybod i’r awdurdodau perthnasol os tybiwch ei fod yn bresennol (y Comisiwn Coedwigaeth, Fera, Llywodraeth Cynulliad Cymru neu Lywodraeth yr Alban). Fe’i canfuwyd ym Mhrydain am y tro cyntaf ar blanhigyn virbunum mewn planhigfa yn 2002.

Gall P. ramorum ladd llawer o’r planhigion y mae’n ei heintio, ond mae’r symptomau’n amrywio yn ôl y rhywogaeth. Ar goed llarwydd Japaneaidd (Larix kaempferi), mae’n peri i flaenau egin wywo ac i nodwyddau droi’n ddu a chwympo cyn eu pryd. Gall cancrau sy’n gwaedu resin ymddangos ar y canghennau a’r boncyff uchaf. Mae coed llarwydd Japaneaidd sydd wedi’u heintio’n creu niferoedd hynod uchel o’r sborau sy’n lledaenu’r afiechyd - pum gwaith yn fwy na’r lefel a grëir ar rododendron - sy’n golygu y gall yr afiechyd effeithio ar nifer fawr o goed a phrysglwyni.

Nid yw P. ramorum wedi’i ganfod ar unrhyw larwydd Ewropeaidd (Larix decidua) na choed larwydd cymysgryw (Larix x eurolepsis), sef y ddau fath arall o rywogaeth larwydd sy’n tyfu ym Mhrydain, ond byddwn yn cadw golwg agos ar y rhywogaethau hyn.

Gellir lledaenu P. ramorum ar esgidiau, olwynion cerbydau, offer, a pheirianwaith sydd wedi’u defnyddio mewn coedwigoedd sydd wedi’u heintio, neu drwy symud planhigion heintiedig. Gellir ei ledaenu wrth i’r glaw dasglu, drwy darth ac awelon hefyd.

Ni ddaethpwyd o hyd i P. ramorum ar unrhyw goed yn Yr Alban, ac nid yw’n niweidiol i bobl nac anifeiliaid.

Mae P. ramorum yn achosi’r afiechyd sy’n adnabyddus del "marwolaeth derw sydyn" yn y UDA, lle mae wedi lladd miliynau o goed derw a derw dwysflodeuog brodorol Americanaidd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir ym Mhrydain, lle mae profion mewn labordai wedi dangos bod ein dwy rywogaeth dderw frodorol o dderw, sef sesil a phendyclaidd, yn fwy gwydn o lawer i P. ramorum na’u cymheiriaid Americanaidd. Cadarnhawyd bod llai na phum derwen wedi’u heintio â P. ramorum ym Mhrydain.

Ni ddylid camgymryd P. ramorum am ddirywiad derwen aciwt (AOD), sy’n afiechyd ar wahân sy’n effeithio ar goed derw yng Nghanolbarth Lloegr a rhannau o Gymru a De-ddwyrain Lloegr, yr ymddengys fod rhywogaeth newydd o facteria’n bresennol.

Mae llarwydd yn goed cryf a gwydn sy’n gwrthsefyll newidiadau rhwng amodau gwlyb a sych yn dda iawn ac sy’n gwrthsefyll pydru wrth eu defnyddio yn y tir. Felly mae galw amdanynt i’w defnyddio ar gyfer pyst ffensys, paneli ffensys, cladin waliau allanol, cychod, siediau a dodrefn, yn ogystal â’i defnyddio dan do ar gyfer lloriau a bwrdd sglodion. Mae’n hawdd eu staenio, eu gweithio a’u gorffen. Nid oes ffigurau cyflawn ar gael ar gyfer niferoedd llarwydd Japaneaidd eu hunain, ond mae’r tair rhywogaeth o larwydden gyda’i gilydd yn gorchuddio tua 134,000 o hectarau ym Mhrydain, neu tua 5% o gyfanswm coetir. Y ffigurau cenedlaethol unigol yw:

 
  • Cymru - 23,000ha / 8%;
  • Lloegr - 43,000ha / 4.3%
  • Yr Alban - 65,000ha / 5.1%
  • (I droi hectarau’n erwau, lluoswch gan 2.47)

 

ENWAU CYSWLLT Y CYFRYNGAU

Mae tua 14% o Gymru wedi’i gorchuddio gan goetiroedd. O hyn, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n berchen ar 38% (126,000 o hectarau/311,000 o erwau). Adran goedwigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac mae’n rheoli’r coetiroedd hyn ar ei rhan. Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n rhoi cyngor ar bolisi coedwigoedd i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am goedwigaeth. Mae’n rhoi cymorth grant i berchenogion coetiroedd eraill ac yn rheoleiddio coedwigaeth drwy roi trwyddedau cwympo. Mae hefyd yn rhan o’r Comisiwn Coedwigaeth yn y DU ac yn cyfrannu at yr agenda coedwigaeth rhyngwladol. Mae rhagor o wybodaeth am Goetiroedd i Gymru ar gael o www.forestry.gov.uk/wales