Cafodd cynlluniau i droi Cymru yn bwerdy ynni adnewyddadwy hwb heddiw [Dydd Iau, 25 Chwefror] pan ddatgelodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones, gynllun â gefnogwyd gan yr UE gwerth miliynau i fynd â Chymru i’r blaen yn niwydiant ynni pren Prydain.
Bydd cynllun WEBS 2, a reolir gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn darparu £7.8 miliwn o gyllid Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop i alluogi troi pren o Gymru yn danwydd adnewyddadwy carbon niwtral – gan greu swyddi ac ysgogi ein heconomi wledig ar yr un pryd.
Bydd WEBS 2, sydd ar gael i fusnesau ledled Cymru, yn galluogi’r farchnad ynni pren i gyfrannu at amcanion strategaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer coetiroedd a choed, sef Coetiroedd i Gymru.
Dywedodd y Gweinidog y byddai Cynllun Busnes Ynni Pren 2 (WEBS 2) yn helpu i fynd â Chymru i’r blaen ym maes cynhyrchu ynni glân yn y DU, drwy helpu busnesau i droi’r deunydd crai a geir yn ein coedwigoedd yn wres neu’n bŵer adnewyddadwy.
Lansiwyd WEBS 2 yn Clifford Jones Timber, busnes teuluol llewyrchus a adeiladodd waith prosesu tanwydd biomas o’r radd flaenaf gwerth £4.7 miliwn yn Rhuthun, Sir Ddinbych, gyda chymorth WEBS 1.
Cam cyntaf WEBS wnaeth ddatgloi’n gyntaf y potensial i gynyddu’r buddion o’n coetiroedd i’r eithaf - a gwneud ein rhan dros y blaned ar yr un pryd. Ariannodd y cynllun 100 o brosiectau rhwng 2004 a 2008 a fydd rhyngddynt yn arbed 20,000 o dunelli metrig o CO2 bob blwyddyn, ac a lwyddodd i greu neu ddiogelu rhyw 75 o swyddi.
Gwaith Clifford Jones Timber yw’r cyntaf ar dir mawr Prydain i ddefnyddio coed yn tarddu’n uniongyrchol o goedwigoedd cynaliadwy yn y DU. Ar ei gapasiti llawn, gall y gwaith gynhyrchu 30,000 o dunelli metrig o belenni coed glân bob blwyddyn, gan weithio ar shifft 24 awr.
Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones, "Mae’r gwaith hwn sydd o’r radd flaenaf yn dangos y gall prynu’r syniad o greu ynni glân, adnewyddadwy olygu mwy na bod yn llesiannol, a chynnig cyfleoedd busnes go iawn.
"Mae pelenni coed yn fath o danwydd coed sy’n lân, cynaliadwy a chyfleus, yn ddelfrydol ar gyfer gwresogi boeleri o bob maint, o gartrefi unigol i ysgolion, swyddfeydd ac adeiladau â llwythi gwres mwy - fel canolfannau hamdden ac unedau diwydiannol."
Dywedodd y Gweinidog fod Clifford Jones Timber yn enghraifft o’r modd y gellid defnyddio coetiroedd Cymru i fywiogi economïau lleol a chreu swyddi mewn ardaloedd gwledig, yn ogystal â gwneud cyfraniad pwysig i’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Trwy WEBS 1, fe wnaeth llawer o gwmnïau yng Nghymru gyfranogi yn y gromlin ddysgu ynglŷn â sut i wneud i danwydd coed weithio, ac roeddent mewn sefyllfa dda heddiw i fynd â Chymru i’r blaen yn y diwydiant ynni pren adnewyddadwy, meddai.
Nod WEBS 2 yw denu £15 miliwn o fuddsoddiad o’r sector preifat, a gobeithia arbed 35,000 o dunelli metrig ychwanegol o CO2 bob blwyddyn, yn ogystal â chreu swyddi a darparu hyfforddiant.
Ychwanegodd y Gweinidog, "Bwriad Llywodraeth Cynulliad Cymru yw y bydd defnyddio tanwydd coed a gynhyrchir yn gynaliadwy ar gyfer ynni yn gwneud cyfraniad ystyrlon go iawn i leihau ein hôl troed carbon, a bydd yn cynorthwyo i greu swyddi a datblygu mentrau mewn cymunedau gwledig drwy’r gadwyn cyflenwi tanwydd a fydd yn datblygu.
"Mae’r math o weithgaredd y gallwn ei weld yma yn Clifford Jones Timber yn dangos yn union beth a olygwn gan ddiwydiant coedwig cystadleuol ac integredig, a rôl tanwydd coed ochr yn ochr â chynhyrchion eraill."
Dywedodd y Gweinidog ei bod eisiau i’r farchnad tanwydd coed greu cyfleoedd newydd i berchnogion coetiroedd bach trwy wneud y gwaith o reoli coetiroedd llai yn fwy hyfyw a dymunol yn economaidd.
Trwy gynyddu’r defnydd o danwydd coed, bydd WEBS 2 yn cyfrannu at raglen llywodraeth Cymru’n Un Llywodraeth y Cynulliad, sy’n cynnwys targedau i leihau allyriadau carbon 3% y flwyddyn erbyn 2011, ac ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i ostyngiadau blynyddol o 3% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr o 2011, fel yr amlinellir yn Nhrywydd Ynni Adnewyddadwy Cymru.
Bydd WEBS 2 hefyd yn cynorthwyo nifer o ganlyniadau’r strategaeth goetiroedd, gan gynnwys helpu i leihau ôl troed carbon Cymru, a chynyddu’r defnydd o goed fel adnodd adnewyddadwy.
Dywedodd Alan Jones, Cadeirydd Clifford Jones Timber, "Mae agor ein gwaith prosesu tanwydd biomas wedi bod yn gam enfawr ymlaen i ni fel busnes, ac mae’n rhoi Cymru ar y map fel arweinydd byd tanwyddau’r dyfodol. Mae 17 o swyddi newydd eisoes wedi’u creu yn Clifford Jones Timber o ganlyniad i raglen WEBS.
"Yn y pen draw bydd y gwaith yn cynhyrchu digon o adnodd pŵer adnewyddadwy i gynnal tref â deng mil o gartrefi. Ein nod yn y pen draw yw canolbwyntio’n gyfan gwbl ar y farchnad ddomestig, gan ddarparu dyfodol cynaliadwy i gymunedau Cymru."
NODIADAU I OLYGYDDION
Roedd WEBS 1 yn gynllun grant cyfalaf pedair blynedd a sefydlwyd yn 2004, yn cael ei redeg gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ar gyfer ardaloedd Amcan 1 a 2 (Powys) yng Nghymru. Fe wnaeth ariannu cynlluniau gwresogi mewn ystod o adeiladau masnachol ac adeiladau’r sector cyhoeddus, o fusnesau twristiaeth gwledig bach, busnesau gweithgynhyrchu a safleoedd sector cyhoeddus gan gynnwys ysbytai ac ysgolion. Fe wnaeth hefyd ariannu ystod o fusnesau cyflenwi tanwydd sy’n cynhyrchu sglodion coed.
Gan adeiladu ar lwyddiant WEBS 1, mae WEBS 2 yn brosiect pedair blynedd o 2009 hyd 2013, hefyd yn cael ei redeg gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, sy’n tynnu ar gyllid Ewropeaidd i gynnig grantiau cyfalaf i Fentrau Bach a Chanolig (BBaCh) ar gyfer systemau gwresogi tanwydd coed, gweithfeydd Gwres a Phŵer Cyfunedig tanwydd coed graddfa fach a chyfarpar prosesu tanwydd coed.
Mae gan WEBS 2 ryw £7.8 miliwn i’w ddyrannu ar draws ardaloedd Cydgyfeirio a Chystadlu Cymru. Mae lefelau grantiau ar gyfer ymgeiswyr unigol yn debygol o fod yn 41% mewn Ardaloedd Cydgyfeirio, a 31% mewn Ardaloedd Cystadlu. Ei nod yw gosod 40 MW o gapasiti gwres a phump MW o drydan.
Mae Clifford Jones Timber yn fusnes teuluol sy’n cyflogi 42 o bobl yn ei waith gweithgynhyrchu coed yn Rhuthun. Yn 2005, prynodd y cwmni ail gwmni melin goed yn Gretna, yr Alban. Mae trosiant y cwmni wedi cynyddu o £1.6m ym 1998 i £8.4 m yn 2008. Y rhagolwg ar gyfer 2009 oedd £10.3m. Rhwng 2007 a 2008 datblygodd y cwmni’r cyfleuster cynhyrchu pelenni ar safle Rhuthun ar gost o £4.7m, ac roedd £550,000 o hwnnw yn grant o rownd gyntaf y Cynllun Busnes Ynni Pren (WEBS 1). Mae rhywfaint o’r deunydd i gyflenwi’r gwaith yn cael ei gludo i lawr o safle Gretna. Mae Clifford Jones Timber yn cyflenwi pelenni coed cynaliadwy a briquettes o dan yr enw brand Blazers Fuel Logs, ac mae’n cyflenwi i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ledled y DU yn ogystal â manwerthwyr eraill.
Ymholiadau’r cyfryngau i: Mary Galliers, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, ar 0300 068 0057, ffôn symudol 07827 955423, mary.galliers@forestry.gsi.gov.uk neu John Clayton, Clifford Jones Timber, 0151 708 9210, ffôn symudol 07754 278511, johnclayton13@hotmail.com.
I gael mwy o wybodaeth am WEBS 2, cysylltwch â Mike Pitcher ar 0300 068 0076, ffôn symudol 07817 014805, mike.pitcher@forestry.gsi.gov.uk