Mae Judith Webb, y Comisiynydd Coedwigaeth dros Gymru, wedi cael ei phenodi’n Llysgennad Penodiadau Cyhoeddus fel rhan o raglen newydd y Llywodraeth dan arweiniad Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth a Swyddfa’r Cabinet i annog rhagor o bobl i geisio am benodiadau cyhoeddus.
Cafodd y rhaglen Llysgenhadon Penodiadau Cyhoeddus ei lansio gyda chryn gyhoeddusrwydd yn Whitehall gan Maria Eagle, AS, Gweinidog Gwladol Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth.
Cafodd Judith, sy’n byw rhwng y Fenni a Henffordd, ger Ewyas Harold, ei phenodi’n Gomisiynydd dros Gymru yn 2007, ac mae’n rhedeg busnes sy’n arbenigo mewn rheoli coetiroedd, polisi defnydd tir a chynlluniau cadwraeth.
Mae cyrff cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ein bywydau pob dydd, ond ychydig iawn o ferched, pobl o leiafrifoedd ethnig a phobl anabl sy’n eistedd ar fyrddau megis Cyngor y Celfyddydau, cyrff llywodraethol ysbytai lleol a’r Comisiwn Cystadleuaeth.
Meddai Judith, "Mae’n fraint fawr cael fy newis yn llysgennad i’r ymgyrch hon. Gallaf ddweud fod cael eich penodi i swydd gyhoeddus yn brofiad gwerthfawr iawn. Gobeithiaf y bydd fy mhrofiad yn annog pobl eraill o gefndiroedd gwahanol, y mae ganddynt sgiliau i’w cynnig i fyrddau cyhoeddus, i ddod ymlaen.”
Bydd Judith yn ymuno â thros 180 o lysgenhadon eraill o bob rhan o’r DU, a benodwyd i gynrychioli’r cyhoedd, gan gynnwys Bonnie Greer y dramodydd a Dirprwy Gadeirydd yr Amgueddfa Brydeinig, a Peter Cooke, Is-gadeirydd y Gronfa Byw’n Annibynnol.
Yn rhinwedd ei swydd fel llysgennad, bydd Judith yn dangos pam y mae’n bwysig cael pobl gydag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad i fod yn rhan o’r penderfyniadau pwysig a wneir gan gyrff cyhoeddus, a bydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o dynnu sylw at fanteision gwasanaethu ar fwrdd, ac yn annog mwy o bobl sy’n perthyn i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i ymgeisio.
I ddarganfod mwy am y rhaglen penodiadau cyhoeddus, swyddi gwag presennol a sut i wneud cais am raglenni mentora newydd, ewch i http://www.direct.gov.uk/publicappointments
Nodiadau i Olygyddion
1. Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw adran Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n gyfrifol am bolisi coedwigaeth, ac mae’n gofalu am y 126,000 hectar (311,000 erw) o goedwigoedd cyhoeddus sy’n eiddo i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
2. Mae merched ar hyn o bryd yn cyfrif am 33.3% o’r holl benodiadau cyhoeddus; mae pobl o leiafrifoedd ethnig yn cyfrif am 5.7%; tra bo pobl gydag anableddau yn cyfrif am 5%. O dan y targedau traws-Lywodraeth newydd, mae’r Llywodraeth am weld merched yn cyfrif am 50% o’r holl benodiadau cyhoeddus, pobl anabl yn cyfrif am 14% a phobl o leiafrifoedd ethnig yn cyfrif am 11%, i sicrhau bod byrddau cyrff cyhoeddus yn adlewyrchu cymdeithas yn well.
3. Mae Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth yn gyfrifol am strategaeth gyffredinol, deddfwriaeth a blaenoriaethau’r Llywodraeth ar faterion cydraddoldeb. Mae gan y Swyddfa hefyd gyfrifoldeb uniongyrchol dros bolisi ar gydraddoldeb rhyw, gogwydd rhywiol a thros integreiddio gwaith ar hil. Cyhoeddwyd sefydlu Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth gan y Prif Weinidog ym mis Gorffennaf 2007, a daeth yn un o adrannau’r Llywodraeth ym mis Hydref 2007. Mae’n gweithio i’r Gweinidogion Harriet Harman, Maria Eagle, Vera Baird a Michael Foster.