Mae beiciwr mynydd brwd, sydd â thros 20 mlynedd o brofiad o’r gamp, wedi ymgymryd â’r gwaith o sicrhau bod llwybrau Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn ne Cymru yn parhau’r heriol a diogel.
Mae Carl Denham wedi cael ei benodi’n Geidwad Beicio Mynydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru am y flwyddyn ac mae’n edrych ymlaen at chwarae rhan allweddol yn y gwaith o hyrwyddo enw da llwybrau enwog y Comisiwn.
Bydd y gwaith yn cwmpasu llwybrau beicio mynydd a digwyddiadau yng nghoetiroedd Cynlluniad Cymru drwy’r rhan fwyaf o dde-ddwyrain Cymru gan gynnwys canolfannau prysur Parc Coedwig Afan a Chwm-carn, lle y ceir rhai o’r llwybrau mwyaf adnabyddus yng Nghymru.
Oherwydd poblogrwydd y llwybrau, mae angen gwneud gwaith monitro a chynnal a chadw cyson arnynt, ac un o dasgau cyntaf Carl fydd adolygu’r holl lwybrau i wneud yn siwr eu bod mewn cyflwr ardderchog, fel y disgwylia’r beicwyr.
Mae eisoes wedi nodi bod angen rhoi wyneb newydd ar rannau treuliedig o lwybrau Skyline a Lefel Whites ym Mharc Coedwig Afan, a chyn gynted ag y bydd y gwelliannau hyn wedi’u cwblhau bydd y gwaith yn cychwyn ar lwybr Penrhydd yn Afan.
Mae Carl hefyd yn gweithio’n agos â Chymdeithas Beicio Mynydd Lawr Allt Cymru i baratoi cwrs lawr allt Rheola ar gyfer y gystadleuaeth National Points Series a gynhelir yno ym mis Medi.
Mae llwybrau Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn denu tua 155,000 o deithiau bob blwyddyn yn ne Cymru yn unig, ac mae’r gwaith o ofalu am y llwybrau hyn yn her enfawr y mae Carl yn edrych ymlaen ati.
"Rydw i wedi cael fy nghyhuddo lawer gwaith o fod ag obsesiwn â’r gamp, ac rydw i’n gobeithio trosglwyddo’r ymroddiad hwn i’r swydd,” meddai Carl.
"Mae ansawdd a diogelwch y llwybrau yn hollbwysig, a rhan fawr o fy ngwaith i fydd gwneud yn siwr bod unrhyw broblemau yn cael eu datrys a sicrhau bod yr holl ddefnyddwyr yn cael y profiad beicio gorau posibl o fewn eu lefel ffitrwydd a sgiliau.”
Mae Carl, sydd wedi cymryd rhan mewn nifer helaeth o ddigwyddiadau beicio ac wedi bod yn drefnydd Tîm Enduro Brechfa, yn gobeithio gweithio’n agos â threfnwyr eraill drwy’r ardal er mwyn cynnal digwyddiadau beicio mynydd llwyddiannus a diogel yng nghoetiroedd y Cynulliad.
"Bydd fy mhrofiad gwaith a’m cariad at feicio mynydd yn cael eu cyfuno yn y swydd hon, a byddaf yn gweithredu fel llysgennad dros feicio mynydd yn yr ardal. Byddaf yn gwneud fy ngorau i fynd i’r afael â’r her sydd o’m blaen er mwyn darparu profiad beicio mynydd gwych i bawb sy’n ymweld â’n coetiroedd.”
Dywedodd Peter Cloke, y Dirprwy Reolwr Rhanbarth Coedwig, fod penodiad Carl yn adlewyrchu ymrwymiad Comisiwn Coedwigaeth Cymru i feicio mynydd, ac roedd yn hyderus eu bod wedi dod o hyd i’r person iawn i ofalu am y llwybrau tra oedd Dave Williams, y Rheolwr parhaol, yn gwella o niwed difrifol.
NODIADAU I OLYGYDDION
Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw adran y llywodraeth sy’n gyfrifol am bolisi coedwigaeth ac mae’n gofalu am y 320,000 erw (130,000 hectar) o goedwigoedd cyhoeddus sy’n eiddo i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Ymholiadau gan y Cyfryngau i Clive Davies, Swyddog Gwybodaeth Comisiwn Coedwigaeth Cymru, ar 0845 604 0845, ffôn symudol 07788 190922.
I gael rhagor o wybodaeth am lwybrau beicio mynydd de Cymru, cysylltwch â Carl Denham, y Ceidwad Beicio Mynydd, ar 0845 604 0845.
Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth, www.forestry.gov.uk .