Nod tudalen & Rhannu
2 MEDI 2010 DATGANIAD NEWYDDION: 13991

Treftadaeth lofaol yn dod i’r golwg mewn coetir yn Ne Cymru

Newidiodd y diwydiant glo dirlun De Cymru a’r galw am byst cynnal o bren yw un o’r rhesymau pam mae cymaint o goedwigoedd yng nghymoedd y de heddiw.

Ni fydd llawer o bobl erioed wedi gweld o ble daw’r glo ond yn awr, oherwydd gwaith a wnaed gan Sefydliad Cadwraeth Ddaearegol Prydain (BIGC), gall ymwelwyr â choetiroedd ger Caerffili weld gwythïen lo heb orfod mentro tan ddaear.

Mae’r Sefydliad wedi cloddio arglawdd yng nghalon coetiroedd Wern Ddu ac wedi torri basn naw metr o uchder i ddangos lle mae gwythïen lo, o’r enw Rhondda Rhif 2, yn codi’n agos at yr wyneb.

Mae llwybr wedi ei adeiladu at y wythïen agored ac mae mangre edrych yn gadael i ymwelwyr weld canlyniadau gwaith diflino’r Sefydliad.

Dywedodd Ben Evans o Sefydliad Cadwraeth Ddaearegol Prydain, "Rydym wedi cloddio gwythïen lo Rhondda Rhif 2 yng nghoetiroedd Wern Ddu fel rhan o’n Prosiect Rhwydwaith Treftadaeth Ddaearegol Maes Glo De Cymru.

"Dinoethwyd y wythïen lo hon gennym ni bedair blynedd yn ôl, ac ar ôl i ni weithio allan ei hunion leoliad a dyfnder, cafodd cynlluniau eu paratoi ar gyfer y ffordd orau i gael pobl mor agos ati â phosibl."

Mae Gwythïen Rhondda Rhif 2 tua 300 miliwn o flynyddoedd o oed ac wedi ei henwi ar ôl nifer o frigfannau o’r un glo sydd i’w cael yng Nghwm Rhondda. Mae ganddi dair haen ac mae’n gorwedd o dan garreg Dywodfaen Pennant sy’n arw ei graen – carreg a ddefnyddir yn fynych at adeiladu yng nghymoedd De Cymru.

Roedd Wern Ddu yn cael ei gweithio bron yn bendant yn y 1920au a’r 1930au gan Lofa’r Wythïen Ddu ac wedyn gan Gwmni Briciau Caerffili, pan oedd y safle yn cael ei weithio drwy ddulliau cloddio glo brig ar gyfer clai.

Rheolir y coetiroedd yn Wern Ddu gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Dywedodd y Goruchwyliwr Coetir Andrew Hobbs, "Bydd coetiroedd yn aml yn cynnwys nodweddion treftadaeth ddaearegol a diwydiannol diddorol ac felly’n gallu cynnig amgylchedd dysgu awyr agored ysgogol.

"Drwy weithio gyda Sefydliad Cadwraeth Ddaearegol Prydain, rydym wedi gallu cynnig cyfle i bobl leol ac ymwelwyr ddysgu mwy am hanes y diwydiant glo yn Ne Cymru."

Mae hi’n hawdd dod o hyd i Wythïen Rhif 2 ac amlygiadau daearegol eraill yng nghoetiroedd Wern Ddu a gwaith 10 munud o gerdded yw hi o faes parcio Coed Parc y Fan, Heol y Fan, Caerffili. Eu Cyfeirnod Grid Arolwg Ordnans yw ST 168 859.

Mae’r Sefydliad bellach wrthi’n gweithio gyda’r grŵp cymunedol lleol Ymddiriedolaeth Coetiroedd Caerffili, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddatblygu llwybr clywedol daearegol ar y safle.

Mae pecyn addysg Gwyddor y Ddaear at y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 o’r enw Creigiau Wern Ddu hefyd wedi ei gynhyrchu i roi gwybodaeth ac adnoddau i athrawon allu arwain taith maes i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Wern Ddu. I wneud cais am gopi, dylai athrawon gysylltu â Ben Evans yn Sefydliad BIGC ar 029 20573 305.

Talwyd yn rhannol am y gwaith a wnaed yng Nghoetiroedd Wern Ddu gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

Pennawd y llun: (o’r blaen i’r cefn) Andrew Hobbs o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, Ben Evans o Sefydliad Cadwraeth Ddaearegol Prydain a Gareth Owen o Gyngor Cefn Gwlad Cymru wrth y wythïen lo yng nghoetiroedd Wern Ddu. Ffotograffau Phil Mahoney

NODIADAU I OLYGYDDION

Sefydliad Cadwraeth Ddaearegol Prydain (BIGC)

Cafodd Sefydliad Cadwraeth Ddaearegol ei gychwyn yn 1987. Mae’n cynnwys grŵp annibynnol o Wyddonwyr y Ddaear sydd wedi ymrwymo i gadwraeth safleoedd daearegol a geomorffolegol o bwys. Y nodau sydd ganddo yw hyrwyddo neu ddatblygu cadwraeth ddaearegol er budd y cyhoedd; a hyrwyddo gwaith ymchwil i gadwraeth ddaearegol a chyhoeddi canlyniadau buddiol gwaith ymchwil o’r fath. Am fwy o wybodaeth gweler www.geoconservation.org

Comisiwn Coedwigaeth Cymru

Mae tua 14 y cant o Gymru o dan goetiroedd. O hyn, mae 38 y cant (126,000 hectar/311,000 erw) ym mherchnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw adran goedwigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n rheoli’r coetiroedd hyn ar ei rhan.

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn cynnig cyngor ar bolisi coedwigaeth i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am goedwigaeth. Mae cynnig cymorth grantiau i berchnogion coetiroedd eraill ac yn rheoleiddio coedwigaeth drwy gyhoeddi trwyddedau cwympo coed.

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru hefyd yn rhan o Gomisiwn Coedwigaeth Prydain Fawr ac mae’n cyfrannu at yr agenda goedwigaeth ryngwladol.

Mae mwy o wybodaeth am goetiroedd Cymru ar gael ar www.forestry.gov.uk/wales

Cyswllt swyddfa’r wasg: Mary Galliers, mary.galliers@forestry.gsi.gov.uk, ffôn: 0300 068 0057.