Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to prydain fawr homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  
spacer2008 datganiad spacer
spacer2007 datganiad spacer
spacer2006 datganiad spacer
spacer2005 datganiad spacer

23 MEHEFIN 2008
DATGANIAD NEWYDDION: 10715

Y DYWYSOGES ANNE YN YMUNO Â’R DATHLIADAU WYTHNOS O HYD WRTH I GOETIR CYMUNEDOL DDOD YN FYW


CYFLE I DYNNU LLUNIAU: Sirhywi Uchaf – Dydd Mawrth 24 Mehefin

Ddydd Mawrth 24 Mehefin, bydd y Dywysoges Anne, y Dywysoges Frenhinol, yn dod i weld gweithgareddau megis helfeydd trychfilod, celfyddyd coetir a gwneud blychau adar wrth i’r gymuned ddathlu cwblhau prosiect Coetir Cymunedol Sirhywi Uchaf.

Mae ymweliad ei Huchelder Brenhinol yn rhan o wythnos Ddathlu Cydcoed ym mhentref Hollybush, a disgwylir y bydd y gymuned gyfan yn dod allan i’w chroesawu.

Roedd y Dywysoges i fod i ymuno â’r gymuned y llynedd, ond bu’n rhaid gohirio ei hymweliad oherwydd tywydd garw. Addawodd y byddai’n dod eto, a bydd yn cadw at ei haddewid Ddydd Mawrth.

Cafodd prosiect Cyngor Cymuned Argoed, a gostiodd £250,000, ac sydd wedi creu traciau a llwybrau yn y coetir 134 hectar i’w wneud yn fwy hygyrch ac i ddarparu ystafell ddosbarth awyr agored i blant, ei ariannu gan Cydcoed – Woodlands for All, rhaglen gwerth £18 miliwn Comisiwn Coedwigaeth Cymru sy’n cael ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd (Amcan Un), a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

“Mae’r prosiect cyffrous hwn wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r dyffryn, ac mae wedi darparu canolbwynt ar gyfer mathau newydd o weithgareddau,” meddai Garry Lewis, cadeirydd Cyngor Cymuned Argoed.

Bydd y dathliadau, a fydd yn parhau am wythnos, yn cynnwys taith gyda’r ceidwad, helfa trychfilod, diwrnod hyfforddi gyda beiciau mynydd ac arddangosfa ffotograffig sy’n dilyn cynnydd y prosiect creu coetir.

Trefnwyd y digwyddiadau i dynnu sylw at yr ystod eang o welliannau sydd wedi trawsnewid y safle coetir poblogaidd hwn yn gaffaeliad pwysig i’r gymuned ac yn adnodd addysgol ar gyfer plant lleol.

Ac ar brynhawn Dydd Mawrth, 24 Mehefin, bydd Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol yn cael ei chroesawu gan y tîm a fu’n gyfrifol am y prosiect, a hefyd gan blant o Ysgolion Cynradd Markham, Penllwyn, Ynys-ddu, Cwmfelin-fach a Bryn.

Bydd yn gweld y broses o wneud blychau adar, dan arweiniad Canolfan Adnoddau Markham, gweithgareddau beicio mynydd yng ngofal canolfan awyr agored Ynys Hywel, Stondin Cyfeiriannu gyda disgyblion o Libanus, a chwilio am greaduriaid yn yr afon.

Bydd hefyd yn gweld y bompren newydd sydd wedi helpu i greu mynediad i’r coetir, y gysgodfan bren awyr agored newydd a ddefnyddir ar gyfer chwaraeon a dysgu, a gweithgareddau celfyddyd coetir.

“Mae prosiect dyffryn Sirhywi Uchaf yn dangos pa mor werthfawr y gall coetiroedd fod,” meddai Trefor Owen, Cyfarwyddwr Comisiwn Coedwigaeth Cymru, a fydd yn mynychu’r digwyddiad.

“Mae agor y coetir yn creu pob math o gyfleoedd ar gyfer chwarae, dysgu ac ymarfer yn yr awyr agored, ac mae hefyd yn dod â’r gymuned at ei gilydd wrth i bobl ymuno yn y gweithgareddau a chymryd rhan yn y prosiect.”

Mae’r cynllun yn ategu nifer o brosiectau cysylltiedig sydd â’r nod o adfywio rhan uchaf dyffryn Sirhywi drwy fanteisio i’r eithaf ar brif ased yr ardal, sef y dirwedd leol.

Mae’r prosiect hwn yn un o 160 o brosiectau coetir cymunedol a gefnogwyd gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru yn ystod y saith mlynedd diwethaf, ac sydd wedi helpu i greu 37 o gwmnïau cyfyngedig gan warantau newydd a 39 o fentrau cymunedol newydd.

Mae’r rhaglen wedi ariannu 163,000 metr o lwybrau newydd a 42,600 metr o lwybrau beicio mynydd, ac wedi dod â 37,500 hectar o goetiroedd dan reolaeth gynaliadwy.

Y gymuned leol sy’n gyfrifol am reoli pob prosiect, ac mae’r profiad o reoli eu hamgylchedd eu hunain wedi galluogi’r cymunedau hyn i ddysgu sgiliau newydd a meithrin hyder.

Cysylltwch â: Barbara Anglezarke, Rheolwr Rhaglen Cydcoed - Ffôn: 01873 850060

NODIADAU I OLYGYDDION

Mae prosiect Cyngor Cymuned Argoed wedi creu cyfres o lwybrau a thraciau newydd i gysylltu’r coetir cyfan. Hefyd, aed ati i greu llennyrch agored er mwyn creu eisteddleoedd a golygfeydd, ac i ledu llwybrau ceffylau a chreu ardaloedd natur i annog bioamrywiaeth. Unwyd dau goetir – Coed y Llannerch a Hafodrisclawdd – drwy uwchraddio’r hen reilffordd gan greu Coetir Cymunedol Sirhywi Uchaf. Crëwyd saith milltir o lwybrau cylchog ac is-lwybrau a thraciau i gysylltu’r llwybrau ceffylau a’r prif lwybrau. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys ystafell ddosbarth awyr agored a phecyn addysg. Mae Ysgol Gynradd Markham wedi bod yn cydweithio’n agos â Chyngor Cymuned Argoed ar y prosiect, ac mae ysgolion lleol eraill yn defnyddio’r coetir fel ystafell ddosbarth awyr agored. Crëwyd cylch boncyffion gyda chysgodfan dros dro fel canolbwynt ar gyfer y dysgu hwn sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm cenedlaethol. Mae cerflunydd wedi dylunio a chreu mynedfeydd arbennig i’r coetir cymunedol newydd a gwnaed fideo proffesiynol o’r prosiect cyfan.

Rhaglen grant gwerth £18 miliwn o eiddo Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw Cydcoed (Woodlands for All), a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd (Amcan Un) a Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac sy’n hyrwyddo coedwigaeth yng Nghymru ar gyfer datblygiad cymunedol.

Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw adran y llywodraeth sy’n gyfrifol am bolisi coedwigaeth ac mae’n gofalu am y 320,000 erw (130,000 hectar) o goedwigoedd cyhoeddus sy’n eiddo i Gynulliad Cymru.

e-mail: barbara.anglezarke@forestry.gsi.gov.uk





to DirectGov